SurgiNovi
Mae SurgiNovi yn dylunio ac yn cynhyrchu templedi a chanllawiau llawfeddygol penodol i gleifion ar gyfer llawdriniaethau orthopedig, gan gynnwys cynhyrchu mewnblaniadau pwrpasol.
Mae SurgiNovi yn dylunio ac yn cynhyrchu templedi a chanllawiau llawfeddygol penodol i gleifion ar gyfer llawdriniaethau orthopedig, gan gynnwys cynhyrchu mewnblaniadau pwrpasol.
Mae Nûr Dental Lab yn labordy Orthodonteg Prosthetig a Symudol sy’n cynhyrchu dannedd gosod, laminiadau ac offer diogelwch chwaraeon.
Mae Impressions Dental Laboratory yn wneuthurwr ac yn gyflenwr dyfeisiau deintyddol ac orthodontig, gan gynnwys dannedd gosod, pontydd a choronau.
Mae Romilly Life Sciences yn ymgynghoriaeth masnacheiddio cynnyrch ym maes gofal iechyd, gwyddorau bywyd ac ymchwil glinigol. Mae’r gwasanaethau a gynigir gan Romilly yn cynnwys ymgynghori ar strategaethau busnes, hyfforddi amlddisgyblaethol ac adeiladu consortia.
Mae Neurosign yn cyflenwi chwiliedyddion monitro nerfau yn ystod llawdriniaeth, offer ac electrodau ar gyfer cadwraeth ac adnabod nerfau yn ystod llawdriniaethau’r pen a’r gwddf.
Mae Solar Medical and Chemical yn cyflenwi offer meddygol, gan gynnwys cyflenwadau hylendid, cyfarpar diogelu personol a dodrefn.
Mae NPL Medical Services yn darparu gwasanaethau gosod, cynnal a chadw ac atgyweirio offer meddygol i’r GIG.
Mae Miller Medical yn dosbarthu amrywiaeth o offer meddygol, gan gynnwys offer untro, nwyddau traul, dodrefn, profion diagnostig a chynhyrchion fferyllol.
Mae CMC Consulting yn darparu cyngor datblygu masnachol i’r sectorau meddygol a gofal iechyd, gan gynnwys gwybodaeth am y farchnad, cynllunio strategol, cynllunio mynediad i’r farchnad a chyngor caffael.
Mae Carey Medical yn cyflenwi dyfeisiau meddygol a nwyddau traul, gan gynnwys diffibrilwyr, monitorau pwysedd gwaed, adweithyddion diagnostig a laryngosgopau.