3D Pharma Consulting

Mae 3D Pharma Consulting yn cefnogi cwmnïau deillio, egin fusnesau a chwmnïau gwyddorau bywyd bach gyda’u prosesau datblygu cyffuriau, gan gynnwys helpu gyda systemau cyflenwi cyffuriau, llunio, datblygu prosesau, rheoli rhaglenni clinigol a chymorth IP.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Hybrisan

Mae Hybrisan yn gwmni datblygu cynnyrch technoleg feddygol sydd wedi datblygu platfform WoundSan, sef datrysiad dyfrhau clwyfau sy’n amharu ar fioffilmiau sy’n ffurfio dros glwyfau cronig er mwyn gwella’r broses o wella ac atal haint.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

British Rototherm

Mae British Rototherm yn wneuthurwyr byd-eang o ddatrysiadau mesur tymheredd, gwasgedd, crynodiad hylif, lefel anymwthiol, carbon deuocsid toddedig a llif. Mae British Rototherm yn cyflenwi synwyryddion tymheredd a thechnoleg mesur prosesau i'r diwydiant fferyllol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

ABClonal UK

Mae ABClonal yn gyflenwr labordai sydd wedi’i leoli ym Mhort Talbot. Mae ABClonal yn cyflenwi dros 15,000 o wrthgyrff monoclonaidd a polyclonaidd, offer bioleg foleciwlaidd, dros 1,000 o broteinau sydd wedi’u hailgyfuno, pecynnau ELISA, cyflenwadau labordy a gwasanaethau i ddatblygu deunydd crai IVD a chyflenwi cyffuriau biolegol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Waterless

Mae Waterless yn datblygu cynnyrch hylendid a datrysiadau gwrthficrobaidd, gan gynnwys siampŵ, hylif golchi’r corff, hylif diheintio dwylo rhydd o alcohol, weips a chwistrellau arwyneb. Mae Waterless yn cyflenwi’r GIG a’r Diwydiant Gofal, yn ogystal â Busnesau Masnachol, cwmnïau Rheoli Cyfleusterau, a'r Sectorau Porthorol, Fferyllol a Manwerthu.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

SymlConnect

Mae SymlConnect yn gwmni iechyd digidol o Abertawe sy'n datblygu meddalwedd ar gyfer cyfathrebu rhwng cleifion a chlinigwyr. Mae SymlConnect yn cynnig datrysiadau meddalwedd effeithlon ar gyfer gofal sylfaenol, gan gynnwys ymgysylltu a chyfathrebu o bell â chleifion, ymgynghoriadau all-lein ar y pwynt gofal, ac arolygon digidol SMART.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Springdew

Mae Springdew yn gwmni pecynnu o Abertawe, sy’n gwasanaethu marchnadoedd fferyllol, gofal iechyd, milfeddygol a dyfeisiau meddygol yn bennaf. Mae gan Springdew drwydded MHRA ar gyfer pecynnu eilaidd a chydosod meddyginiaethau dynol a milfeddygol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

ProColl

Mae ProColl yn gwmni bioleg synthetig sy’n cynhyrchu colagen o wartheg a colagen heb fod o anifeiliaid, ar raddfa fawr. Defnyddir y colagen hwn mewn diwydiannau fel dyfeisiau meddygol, therapi celloedd a meddygaeth adfywiol, yn ogystal ag ym maes cynhyrchu bwyd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Osteo Plus

Mae Osteo Plus yn gwmni dyfeisiau meddygol yn Abertawe. Mae Osteo Plus yn ffocysu ar weithgynhyrchu a chyflenwi modelau meddygol anatomegol i gynorthwyo llawfeddygon ym maes cynllunio cyn llawdriniaethau, yn ogystal â datblygu mewnblaniadau ar gyfer oncoleg orthopedig a llawfeddygaeth filfeddygol orthopedig. Mae Osteo hefyd yn cynhyrchu offer llawfeddygol wedi’u teilwra.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

My Mask Fit

Mae My Mask Fit yn gwmni dyfeisiau meddygol o Abertawe sy’n datblygu mygydau wyneb tryloyw P3 safonol sy’n cael eu creu drwy sganio wyneb cwsmer gyda chymhwysiad symudol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: