Moleculomics

Mae Moleculomics yn gwmni deillio o Brifysgol Abertawe sy’n arbenigo mewn datblygu offer bioimiwneiddio yn y sectorau fferyllol a biotechnoleg. Mae'r gwasanaethau a'r platfformau a gynigir gan Moleculomics yn helpu ym maes canfod cynnar, tocsicoleg ac astudiaethau ail-bwrpasu cyffuriau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Medical Connections

Mae Medical Connections yn fusnes meddalwedd ac ymgynghori sydd wedi’i leoli yn Abertawe, sy’n cynnig pecynnau meddalwedd i ddatblygwyr technolegau delweddu meddygol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Kaydiar

Mae Kaydiar yn gwmni dyfeisiau meddygol sy’n datblygu ZeroSole, mewnwadn silicôn modiwlaidd sydd wedi’i ddylunio i leihau’r pwysau ar glwyfau traed a briwiau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Industry Online

Mae Industry Online yn gwmni meddalwedd sy’n datblygu llwyfannau ar-lein ar gyfer cydweithio a thrafodion cadwyn gyflenwi ar gyfer diwydiant. Prif gynnyrch Industry Online yw IOPharma, platfform rhyngrwyd sy’n darparu trafodion a chyfnewidiadau sy’n cydymffurfio rhwng prynwyr a chyflenwyr cynhyrchion fferyllol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Imersifi

Mae Imersifi yn gwmni rhithwir sy'n creu cymwysiadau realiti rhithwir o'r radd flaenaf sy'n caniatáu efelychu amgylcheddau neu sefyllfaoedd diffiniedig. Mae Imersifi wedi datblygu rhaglenni y gellir eu defnyddio i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn triniaethau fel broncosgopi neu traceostomi.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Haemair

Mae Haemair yn ddatblygwr dyfeisiau meddygol sy'n canolbwyntio ar ofal gwaed a'r ysgyfaint. Mae’r cynhyrchion a ddatblygwyd gan Haemair yn cynnwys system Cynnal Bywyd allgorfforol, ocsigenydd gwaed cryno, pwmp gwaed curiadol haemolysis isel a dyfais ar gyfer trin cydafiacheddau Syndrom Trallod Resbiradol Aciwt ac Anaf Aciwt i’r Arennau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Haemaflow

Mae Haemoflow yn datblygu cynnyrch i gefnogi pobl sydd â chlefyd yr ysgyfaint neu ddifrod i'r ysgyfaint. Ar hyn o bryd, Haemair Ltd sy’n berchen yn llwyr ar Haemaflow, ond mae’n masnachu’n annibynnol. Mae cynnyrch Haemaflow yn cynnwys pwmp gwaed curiadol, dyfeisiau i wella trallwysiad gwaed, rheomedr pwynt gofal i asesu tuedd y gwaed i geulo a dadansoddwr di-gyswllt i bennu crynodiad rhywogaethau o fewn cymysgeddau nwy neu hylifau wedi’u hydoddi heb gymryd sampl.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

GPC Systems

Mae GPC Systems yn gwmni meddalwedd 3D o Abertawe a gafodd ei sefydlu yn 2010. Mae GPC yn datblygu meddalwedd sy’n canolbwyntio ar ofal iechyd, gan gynnwys rhaglen symudol i fesur maint clwyfau, ap i gynorthwyo ymarferwyr cyffredinol drwy ddarparu diagnosis posibl ac ap cyfathrebu cleifion-clinigwyr.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Enzyme Research Laboratories

Mae Enzyme Research Laboratories yn cynhyrchu ac yn dosbarthu ensymau a chydffactorau a ddefnyddir ym maeas ymchwil ceulo. Mae’r cynhyrchion a gynigir yn cynnwys zymogens ac ensymau wedi’u puro, gwrthgyrff monoclonal i ffactorau ceulo ac adweithyddion ELISA.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Energist

Mae Energist, sy’n is-gwmni Energist Medical Group, yn gwmni dyfeisiau meddygol sy’n dylunio, gweithgynhyrchu a marchnata NeoGen Plasma, technoleg plasma nitrogen ar gyfer y farchnad esthetig meddygol. Gellir defnyddio’r dechnoleg i drin cyflyrau ar y croen megis ceratosis a chreithiau acne.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: