eHealth Digital Media
Mae eHealth Digital Media yn gwmni iechyd digidol sydd wedi’i leoli yn Abertawe. Mae’r cwmni wedi datblygu PocketMedic, cymhwysiad symudol sy’n cynnwys llyfrgell o ffilmiau i helpu cleifion i reoli eu cyflyrau iechyd. Mae ffilmiau ar gael ar gyfer ystod o afiechydon, gan gynnwys diabetes, lymffoedema, methiant y galon, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, ymarfer corff gyda chlefyd yr ysgyfaint, poen cronig, gwella o ganser, lles, atal briwiau pwyso, a gofal diwedd oes.