ProMove

Mae ProMove wedi datblygu’r ProMove Sling, dyfais sy’n caniatáu i bobl mewn cadair olwyn gael eu codi a’u symud i safle arall. Mae gan y sling gymwysiadau posibl yng nghartrefi pobl anabl, gofal cymdeithasol, ac yn y gwasanaethau brys.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

PhytoQuest

Cwmni biofferyllol sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth, ac sy’n arbenigo mewn ymchwilio i iminosiwgrau planhigion, yw PhytoQuest. Mae’n bosibl y bydd iminosiwgrau yn cael eu defnyddio mewn bwyd, cynhyrchion fferyllol a cholur. Mae PhytoQuest hefyd yn cynnig gwasanaethau i ddiwydiant ac i'r byd academaidd, gan gynnwys dadansoddi cyseiniant magnetig niwclear.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Labco

Mae Labco yn gweithgynhyrchu ffiolau gwydr wedi'u capio â sgriwiau sy'n cael eu defnyddio mewn protocolau profi labordy, gan gynnwys ar gyfer profi samplau o nwyon a hylifau ym maes gofal iechyd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

ARGiP Technologies

Mae ARGiP yn cynhyrchu cynnyrch sylfaenol a ddefnyddir at ddibenion bioddiogelwch a milfeddygol. Prif gynnyrch ARGiP yw Pepsin (ensym proteolytig a gynhyrchir gan ddefnyddio stumog mochyn) a lipidau bloneg y bol (lipidau wedi’u neilltuo o feinwe mochyn sy’n arddangos priodweddau therapiwtig), yn ogystal ag offer homogenaidd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Amped PCR

Mae AMPED PCR yn darparu cynhyrchion PCR fel adweithyddion ar gyfer ymchwilwyr yn y meysydd Gwyddorau Bywyd a Marchnadoedd Cymhwysol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Agxio

Mae Agxio yn gwmni deallusrwydd artiffisial, gwyddor data a dysgu peirianyddol sy’n arbenigo yn y diwydiannau Biotechnoleg, gwyddorau bywyd a gwyddorau amaethyddol, gan gynnwys ar gyfer dadansoddi microbïom, dylunio cyffuriau parasitoleg a dadansoddi ymddygiad anifeiliaid.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Holtain

Mae Holtain yn cyflenwi offerynnau anthropometrig.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

FRIO

Mae FRIO wedi datblygu waledi meddyginiaeth patentedig a waledi oeri inswlin. Gan ddefnyddio crisialau a ddatblygwyd yn arbennig sy'n trawsnewid yn jel oer pan gaiff ei actifadu gan ddŵr, mae modd defnyddio prosesau anweddu i ailwefru waledi FRIO yn llawn ac atal yr inswlin, a sawl meddyginiaeth arall sy'n sensitif i dymheredd, rhag dirywio.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Celtic SMR

Mae Celtic SMR yn darparu datrysiadau diagnostig a therapiwtig i’r diwydiannau gofal iechyd a milfeddygol. Mae’r cynnyrch yn cynnwys offer pelydr X, systemau pelydr-x cludadwy a sefydlog, systemau uwchsain diagnostig a magnetotherapi.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Benson Viscometers

Mae Benson Viscometers yn gwmni dyfeisiau meddygol sy’n arbenigo mewn dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu fisgomedrau clinigol a chyfarpar mesur gwaed o ansawdd uchel i'w defnyddio mewn labordai patholeg. Mae BV1 a BV200 Benson Viscometers yn mesur gludedd hylifau biolegol dynol, gan gynnwys plasma gwaed, serwm gwaed, gwaed cyfan a hylif synofaidd, i helpu i wneud diagnosis o glefydau, gan gynnwys anhwylderau cronig, myeloma neu facroglobwlinaemia Waldenstrom.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: