Blizzard Protection Systems

Mae Blizzard Protection Systems yn gweithgynhyrchu cynnyrch amddiffyn thermol fel blancedi a bagiau y gall timau gofal trawma eu defnyddio i atal hypothermia.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Bee Robotics

Mae Bee Robotics yn dylunio ac yn cynhyrchu offerynnau robotig ar gyfer awtomeiddio trin hylifau mewn labordai biotechnoleg. Gellir defnyddio offer y cwmni i awtomeiddio technegau labordy cyffredin, fel profion Western Blot ac echdynnu DNA, ac fe’u cymeradwyir i’w defnyddio mewn profion diagnostig clinigol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Virustatic

Mae Virustatic wedi datblygu Viruferrin, sef gorchudd tecstilau gwrth-ficrobaidd, gwrthfacterol, gwrthfeirysol a gwrthffyngol sy’n seiliedig ar brotein, a allai gael ei ddefnyddio i leihau lledaeniad clefydau fel COVID-19 a ffliw tymhorol. Mae’r cwmni wedi datblygu’r Virustatic Shield, sef gorchudd wyneb sy’n defnyddio technoleg patentedig y cwmni.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Menai Organics

Mae Menai Organics yn darparu cemegau organig coeth fel rhyngolynnau ar gyfer synthesis cyfochrog a synthesis cyfnod solet ar gyfer ymchwil a datblygu yn y sectorau agrocemegol, darganfod cyffuriau a biotechnoleg.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Ceridwen Oncology

Mae Ceridwen Oncology yn gwmni darganfod cyffuriau oncoleg, sy’n targedu canserau prin nad oes opsiynau triniaeth effeithiol ar eu cyfer ar hyn o bryd, fel cordoma. Mae'r cwmni’n cyfuno bioleg strwythurol â chyfradd brosesu uchel mewn sgrinio ymgeiswyr ar gyfer cyffuriau silico er mwyn gallu darganfod llif newydd o gynnyrch fferyllol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Wockhardt

Mae Wockhardt yn gwmni fferyllol mawr sydd â phortffolio o dros 200 o gynhyrchion, gan gynnwys cyffuriau generig a chyffuriau brand mewn meysydd therapi fel rheoli poen, gwrthgeulo a diabetes. Mae gan y cwmni gyfleuster gweithgynhyrchu di-haint yn Wrecsam sy’n cyflogi tua 500 o staff. Chwaraeodd safle Wrecsam ran fawr yn y gwaith o gynhyrchu brechlyn Astra Zeneca yn erbyn COVID-19.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Transcontinental AC UK

Mae Transcontinental Advanced Coatings yn gyflenwr byd-eang o dechnolegau cotio manwl, gan gynnwys papurau wedi’u cotio, ffilmiau ac is-haenau arbenigol, i ddiwydiannau, gan gynnwys y cyfryngau, gofal iechyd ac electroneg.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Nu Instruments

Mae Nu Instruments o Wrecsam yn ddylunydd ac yn wneuthurwr sbectromedrau mas perfformiad uchel, i'w defnyddio ym maes gwyddorau ffisegol a bywyd, gan gynnwys delweddu biofeddygol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Healthcare Matters

Mae Healthcare Matters yn cyflenwi cymhorthion ac offer gofal iechyd yn Wrecsam. Mae cynnyrch y cwmni yn cynnwys systemau trosglwyddo cleifion, cadeiriau ysbyty a chadeiriau llawfeddygol, gwelyau cadair a chymhorthion sefyll.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Bowmed Ibisqus

Mae Bowmed Ibisqus yn gwmni yn Wrecsam sy’n datblygu fersiynau generig y gellir eu chwistrellu o gyffuriau gwrthfacterol ar gyfer y farchnad gofal eilaidd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: