Aparito

Mae Aparito yn gwmni treialon clinigol digidol yn Wrecsam sydd wedi datblygu Llwyfan Treial Clinigol Atom5, sy’n cefnogi Asesiadau Fideo, Asesiadau Canlyniadau Clinigol Electronig (eCOA), Telefeddygaeth, deunyddiau y gellir eu gwisgo ac eConsent, i gyd drwy un ap ffôn clyfar. Er ei fod wedi'i gynllunio'n wreiddiol ar gyfer treialon clefydau pediatrig a phrin, mae Atom5 bellach wedi'i ddefnyddio mewn ystod eang o astudiaethau mewn dros 20 o wledydd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

An-ex Analytical Services

Mae An-ex yn sefydliad ymchwil a datblygu contractau annibynnol sy’n cynnig amrywiaeth o ddatrysiadau gwyddor y croen i’r sectorau fferyllol, cemegol a chosmetig. Mae gwasanaethau An-ex yn cynnwys rhagfynegiad o arsugno croenol, trwy'r croen ac ewinol, datblygu fformwleiddiadau i weithio ar y croen, trwy'r croen ac ar ewinedd, ffurfio a gwerthuso dyfeisiau, ac arbrofi a chynnig barn i gefnogi ymgyfreitha patentau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Alesi Surgical

Mae Alesi Surgical yn datblygu ac yn masnacheiddio cynnyrch sy’n gwella diogelwch, effeithlonrwydd a chanlyniadau triniaethau llawfeddygol manwl. Sefydlwyd y cwmni fel cwmni deillio o Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru (WIMAT). Mae cynnyrch Alesi Surgical, ULTRAVISION ac ULTRAVISION2, yn lleihau mwg llawfeddygol mewn ystafelloedd llawfeddygol heb fod angen cyfnewid CO2, gan wella gwelededd, lleihau'r angen i lanhau camerâu a lleihau’r defnydd o CO2 mewn adrannau. Yn ddiweddar, mae’r cwmni wedi cael cymeradwyaeth FDA ar gyfer ULTRAVISION2.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Aber Instruments

Mae Aber Instruments yn datblygu datrysiadau gweithgynhyrchu ar gyfer y diwydiannau bragu a biotechnoleg, gan gynnwys offer a synwyryddion mesur biomas. Mae’r cwmni’n cyflenwi rhai o gwmnïau fferyllol a bragu mwyaf y byd, gan gynnwys Glaxo Smithkline, Novartis, ABInBev, Heineken a SAB miller. Mae pencadlys y cwmni yn Aberystwyth.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Ig Innovations

Mae Ig Innovations yn is-gwmni i Abbott Toxicology, sydd ei hun yn is-gwmni i Abbott, cwmni dyfeisiau meddygol a gofal iechyd rhyngwladol. Mae Ig Innovation yn cynhyrchu gwrthgyrff polyclonal ar gyfer y sectorau ymchwil, diagnostig, biotechnoleg a fferyllol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

AAH Pharmaceuticals

Mae AAH Pharmaceuticals yn ddosbarthwr cynhyrchion fferyllol a gofal iechyd sy’n gwasanaethu fferyllfeydd, ysbytai a meddygon ledled y wlad, a dyma’r rhwydwaith fferyllfa gymunedol a chyfanwerthwr fferyllol mwyaf yn y DU. Mae pencadlys y cwmni yn Coventry, ond mae ganddo gangen yn Abertawe.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Neogen

Mae Neogen yn ddarparwr datrysiadau diogelwch bwyd. Yn 2022, unodd y cwmni â 3M Food Safety, a oedd yn berchen ar safle datblygu a gweithgynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r safle hon yn gweithgynhyrchu profion hylendid cyflym a chynnyrch sgrinio microbaidd i’w defnyddio gan gynhyrchwyr llaeth, bwyd a diod.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Just Life Sciences

Mae Just Life Sciences yn ymgynghoriaeth recriwtio arbenigol ym maes gwyddorau bywyd yng Nghaerdydd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: