Fulcrum Direct
Mae Fulcrum Direct yn ymgynghoriaeth ymchwil i'r farchnad yng Nghaerdydd sy'n arbenigo mewn darparu ymchwil i'r farchnad sylfaenol yn y diwydiannau gwyddorau bywyd a biotechnoleg.
Mae Fulcrum Direct yn ymgynghoriaeth ymchwil i'r farchnad yng Nghaerdydd sy'n arbenigo mewn darparu ymchwil i'r farchnad sylfaenol yn y diwydiannau gwyddorau bywyd a biotechnoleg.
Mae Kelyon yn gwmni iechyd digidol yn Napoli, yr Eidal, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd. Mae Keylon yn darparu arbenigedd ac arweiniad ar gyfer meddalwedd dyfeisiau meddygol, gan gynnwys modelu gwyddor data i ddatblygu modelau cefnogi penderfyniadau ac ymgynghoriaeth rheoleiddio.
Mae InBio yn gwmni diagnosteg sy'n arbenigo mewn proteinau gweithgynhyrchu a phrofion imiwnedd ar gyfer ymchwil a diagnosteg i alergeddau ac asthma. Mae’r cwmni hefyd yn darparu gwasanaethau technegol fel profi alergenau mewn samplau amgylcheddol, biolegol a bwyd.
Mae Freudenberg Performance Materials yn gwmni tecstilau sy’n cynhyrchu ac yn marchnata cynnyrch heb ei wehyddu. Mae’r cwmni wedi datblygu datrysiadau gofal clwyfau gan ddefnyddio’r deunyddiau hyn, yn ogystal â chyfarpar diogelu personol fel mygydau wyneb. Mae gan y cwmni safle yng Nglynebwy.
Mae The Baker Company yn weithgynhyrchwr cynhyrchion labordy fel cypyrddau diogelwch biolegol, meinciau glân a fume hoods ar gyfer cymwysiadau Biotechnoleg, fferyllol ac ymchwil glinigol. Yn 2011, prynodd Baker gwmni Ruskinn Technology ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gwneuthurwyr gweithfannau anaerobig a gweithfannau lle mae'r atmosffer wedi'i addasu.
Mae Prism Medical yn darparu offer arbenigol i helpu pobl sy'n cael trafferth symud i drin a thrafod a symud yn fwy diogel yn eu cartrefi, mewn gofal tymor hir neu mewn amgylchedd acíwt. Mae gan Prism ganolfannau gweithgynhyrchu yn y Rhyl a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae PB Leiner yn cyflenwi amrywiaeth o beptidau colagen a gelatin i'r diwydiannau fferyllol, bwyd a gwyddorau bywyd. Mae gan y cwmni uned gynhyrchu yn Nhrefforest.
Mae Synlab yn darparu gwasanaethau labordy, diagnostig a chynghori, gan gynnig profion, gan gynnwys firoleg, tocsicoleg a phrofion genetig. Mae Synlab yn gwmni byd-eang, ac mae’n gweithio gyda’r GIG drwy bartneriaethau ysbyty. Mae pencadlys Synlab yn y DU yn Llundain, ond mae ei brif labordy patholeg yn y Fenni.
Mae Thermo Fisher yn ddarparwr mawr o offer meddygol, offerynnau dadansoddol, adweithyddion a nwyddau traul, meddalwedd a gwasanaethau i'r diwydiant gwyddorau bywyd. Yn 2011, prynodd y cwmni Sterilin, darparwr nwyddau traul labordy, fel dysglau petri, pibedau a photeli casglu samplau, sydd wedi’i leoli yn ne Cymru. Yn ogystal, mae Thermo Fisher yn berchen ar Synexus, sefydliad sy'n cynnal treialon clinigol ar gyfer cwmnïau fferyllol a Biotechnoleg. Mae gan Synexus glinig yng Nghaerdydd.
Cwmni darparu cyfarpar diwydiannol yw Porvair, sy’n cynnig gwasanaethau gweithgynhyrchu, dylunio, datblygu a chyflenwi cyfarpar hidlo a gwahanu arbenigol, ac ategolion cysylltiedig. Mae pencadlys Porvair yn King's Lynn, Norfolk. Mae'r is-gwmni Porvair Sciences yn gweithredu o Wrecsam, ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu deunyddiau plastig mân-dyllog a thechnolegau micro blât ar gyfer y diwydiannau biotechnoleg a gwyddorau bywyd.