Revvity

Mae Revvity (oedd yn arfer bod yn rhan o Perkin Elmer) yn ddarparwr offer ar gyfer ymchwil a datblygu mewn labordai (e.e. offerynnau dadansoddi genomig a phroteinau, imiwnobrofiadau a llinellau celloedd), llwyfannau awtomeiddio labordai, a phrofion diagnostig clinigol ar gyfer amrywiaeth o glefydau. Mae’r cwmni hefyd yn darparu gwasanaethau technegol, gan gynnwys sgrinio a phrofi cyn-glinigol a chlinigol. Mae’r cwmni wedi’i leoli yn yr Unol Daleithiau, ac mae ganddo gyfleuster gweithgynhyrchu yn Llantrisant

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Flogas

Mae Flogas yn cyflenwi Nwy Petrolewm Hylifedig i gwsmeriaid cartref a busnes. Yn 2012, prynodd Flogas y cwmni Medical GAS Solutions Limited, sef cwmni nwy yn y Fflint sy’n arbenigo mewn nwy meddygol. Mae Flogas bellach yn cyflenwi nwy meddygol i’r diwydiant gofal iechyd, gan gynnwys i ysbytai a’r gwasanaethau brys.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Winncare Group

Mae Winncare Group yn gwmni offer meddygol sy’n arbenigo mewn gwelyau meddygol, dodrefn ysbyty a matresi therapiwtig. Mae Winncare wedi’i leoli ym Manceinion, ond mae pencadlys Mangar International, sef is-gwmni sy’n cyflenwi datrysiadau codi diogel a gofal briwiau pwyso ym Mhowys.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

ESI Technologies Group

Mae ESI Technologies yn gyflenwr Datrysiadau Peirianneg a Chyfarpar Prosesu ar gyfer y diwydiannau Biotechnoleg, Cynnyrch Fferyllol, Cemegol, Lled-ddargludyddion, Bwyd a Diod. O fewn y diwydiannau biotechnoleg a fferyllol, mae’r cwmni’n darparu cyfarpar prosesu nodweddiadol fel offer, falfiau a dyfeisiau hidlo, yn ogystal â chyfarpar untro fel cynwysyddion a phympiau biobroses. Mae gan ESI safle yn Nhorfaen.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Biotage

Mae Biotage yn gwmni gwyddorau bywyd sy’n darparu cynnyrch a gwasanaethau i gwmnïau fferyllol a labordai. Mae’r cynnyrch a ddatblygwyd gan y cwmni yn cynnwys offer llif gwaith ar gyfer synthesis a phuro peptid. Mae pencadlys Biotage yn Sweden, ac mae pencadlys y cwmni yn y DU yn Hengoed.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Sterling Pharma Solutions

Mae Sterling Pharma Solutions yn gwmni datblygu contractau a gweithgynhyrchu sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau moleciwlau bach a Gwrthgyrff Cyffuriau Cyfosod sy’n amrywio o ddatblygiad cyn-glinigol i weithgynhyrchu masnachol llawn. Mae'r cwmni hefyd yn darparu gwasanaethau cemeg cam cynnar ar gyfer darganfod cyffuriau. Mae cyfleuster Sterling yng Nglannau Dyfrdwy yn darparu gwasanaethau ymchwil a datblygu ADC cyn-glinigol y cwmni.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

ICON

Sefydliad ymchwil contract yw ICON sy’n darparu gwasanaethau datblygu allanol i’r diwydiannau biotechnoleg, fferylliaeth a dyfeisiau meddygol ledled y byd. Mae’n darparu gwasanaethau arbenigol sy’n rhychwantu cylch bywyd datblygu cynnyrch ar draws ystod o feysydd therapiwtig. Mae gan ICON safle yn Abertawe sy’n darparu gwasanaethau ymchwil clinigol, gan gynnwys gwyliadwriaeth ffarmacolegol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Purolite

Mae Purolite (sy’n eiddo i Ecolab, darparwr cynnyrch a gwasanaethau dŵr, hylendid ac atal heintiau) yn datblygu ac yn gweithgynhyrchu technoleg gwahanu, puro ac echdynnu sy’n seiliedig ar resin. Mae gan y dechnoleg hon sawl defnydd o fewn gofal iechyd a gwyddorau bywyd, gan gynnwys ar gyfer gweithgynhyrchu biotherapiwtig, diagnosteg a biocatalysis. Mae safle Purolite yn Llantrisant yn arbenigo mewn cynhyrchu cynhyrchion ar gyfer cymwysiadau gwyddor bywyd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Cytiva

Mae Cytiva yn ddarparwr technolegau a gwasanaethau sy’n datblygu ac yn cyflymu’r gwaith o ddatblygu, cynhyrchu a darparu therapiwteg, gan gynnwys biotherapiwteg, therapïau celloedd a genynnau a therapiwteg mRNA. Arferai Cytiva fod yn rhan o GE Healthcare Life Sciences ac mae’n weithredol mewn 40 o wledydd. Mae cyfleuster gweithgynhyrchu Cytiva yng Nghaerdydd yn cynhyrchu technolegau biobrosesu untro a ddefnyddir i wneud brechlynnau a chynhyrchion biofferyllol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

UPG

Mae UPG yn ddarparwr arloesol, byd-eang o atebion datblygu a gweithgynhyrchu cynnyrch. Mae gennym hanes o lwyddo o ran cyflenwi cwmnïau gofal iechyd o’r radd flaenaf, o gydrannau plastig wedi’u mowldio â chwistrell o'n hystafell lân Dosbarth 7 ISO, hyd at weithgynhyrchu dan gontract gwasanaeth llawn. Mae arbenigedd, systemau a phrosesau byd-eang UPG wedi'u teilwra i fodloni gofynion llym cynhyrchion gofal iechyd heddiw. 

Services:
Math:
Sector:
Specialism: