Microchip

Mae Microchip Technology Incorporated yn darparu datrysiadau rheoli sydd wedi'u hymgorffori ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae gan y cwmni safle yng Nghil-y-coed sy’n darparu gwasanaethau microelectroneg sy’n cwmpasu cylch bywyd microsglodyn, gan gynnwys dylunio, datblygu, cydosod, profi a gwerthu, ac fe’u defnyddir yn y diwydiannau meddygol, cyfathrebu, diwydiannol, awyrofod ac amddiffyn.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Norgine

Mae Norgine yn datblygu, yn gweithgynhyrchu ac yn masnacheiddio dyfeisiau meddygol a chynnyrch fferyllol arbenigol. Mae portffolio cynnyrch y cwmni yn cynnwys dyfeisiau a chyffuriau wedi'u brandio ym meysydd gastroenteroleg, hepatoleg, a chanser a gofal cefnogol. Mae pencadlys Norgine yn yr Iseldiroedd. Mae Norgine UK wedi’i leoli yn Nhir-y-berth.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Pharmaron

Mae Pharmaron yn ddarparwr gwasanaethau ymchwil a datblygu ar gyfer y diwydiant gwyddorau bywyd. Mae Pharmaron yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ar draws ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu, gan gynnwys ym maes darganfod cyffuriau, datblygiadau cyn-glinigol a chlinigol mewn nifer o ddulliau therapiwtig. Mae gan Pharmaron gyfleuster radiolabelu yng Nghaerdydd sy’n paratoi ac yn rhyddhau cyfansoddion profi wedi’u radiolabelu i’w defnyddio mewn astudiaethau anghlinigol, datblygu cyffuriau clinigol ac astudiaethau tynged amgylcheddol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Siemens Healthineers

Mae Siemens Healthineers, is-gwmni Siemens AG, yn gwmni technoleg feddygol sy’n dylunio, datblygu, cynhyrchu a dosbarthu systemau delweddu diagnostig a therapiwtig, diagnosteg labordy a thechnolegau meddygaeth foleciwlaidd, yn ogystal â darparu gwasanaethau mentergarwch a digidol. Mae pencadlys Siemens Healthineers yn yr Almaen, ac mae ganddynt safle yn Llanberis, lle maen nhw’n gweithgynhyrchu adweithyddion IMMULITE, a ddefnyddir mewn profion imiwnedd gwaed IMMULITE i wneud diagnosis o ystod eang o glefydau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Renishaw

Mae Renishaw yn gwmni peirianneg sy’n dylunio, gweithgynhyrchu a marchnata cynnyrch mesur, rheoli symudiadau, sbectrosgopeg a pheiriannu manwl. Mae gan y cwmni adran niwrolawdriniaeth, sy'n datblygu robotiaid llawfeddygol a systemau cyflenwi cyffuriau wedi'u targedu ar gyfer cyflyrau niwrolegol. Mae’r adran hon wedi’i lleoli ym Meisgyn.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

PCI Pharma Services

Mae PCI Pharma Services yn ddarparwr gwasanaethau fferyllol sy’n cynnig datrysiadau profion clinigol, datblygu cyffuriau, gweithgynhyrchu, cyflenwi a phecynnu. Mae’r cwmni yn gweithredu yn y DU ac yn Japan. Mae gan y cwmni ddau safle yng Nghymru – safle gweithgynhyrchu a datblygu yn Nhredegar sy’n cyflogi tua 440 o bobl, a safle pecynnu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Hoya

Corfforaeth o Japan yw Hoya sy’n cynhyrchu cynnyrch optegol, gan gynnwys sbectolau llygaid ac endosgopau meddygol. Mae gan Hoya safle yn Wrecsam sy’n cynhyrchu ac yn cyflenwi lensys offthalmig.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Ipsen Biopharmaceuticals

Mae Ipsen yn gwmni biofferyllol sy’n datblygu ac yn masnacheiddio cynhyrchion fferyllol ym meysydd Oncoleg, Clefyd Prin a Niwrowyddoniaeth. Lleolir pencadlys datblygu a gweithgynhyrchu Ipsen yn Wrecsam, ac mae’n gyfrifol am ddatblygu a gweithgynhyrchu cynnyrch niwrotocsin.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

QuidelOrtho

Mae QuidelOrtho yn cynnig cynhyrchion diagnostig fel cyflenwadau labordy, citiau, adweithyddion ac offerynnau i labordai clinigol ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys profion imiwnohaematoleg a phrofion pwynt gofal ar gyfer ystod o glefydau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Invacare

Mae Invacare yn gwmni offer meddygol sy’n datblygu, yn gweithgynhyrchu ac yn dosbarthu cynhyrchion ar gyfer gofal nad yw’n acíwt, fel y marchnadoedd gofal iechyd yn y cartref a gofal tymor hir. Mae’r cynhyrchion a gynigir yn cynnwys cadeiriau olwyn, dyfeisiau ar gyfer gofalu am friwiau pwyso, ac offer byw’n annibynnol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: