Zimmer Biomet

Cwmni dyfeisiau meddygol sy’n datblygu amrywiaeth o gynhyrchion cyhyrysgerbydol, fel mewnblaniadau a thechnolegau llawfeddygol, yw Zimmer Biomet. Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Zimmer Biomet ei fod yn cau ei safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

ConvaTec

Mae ConvaTec yn gwmni technolegau meddygol sy'n canolbwyntio ar reoli cyflyrau cronig, gan gynnwys ymataliaeth a gofal critigol, gofal ostomi, dyfeisiau trwytho a gofal clwyfau uwch. Mae ei brif gynnyrch yn cynnwys gorchuddion clwyfau, cynnyrch gofal croen, setiau arllwysiad tafladwy, cathetrau wrolegol; a dyfeisiau ac ategolion ar gyfer pobl ag ostomi, ymataliaeth wrinol, anafiadau i linyn asgwrn y cefn, diabetes, wlserau, sglerosis ymledol, spina bifida ac anhwylderau eraill.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

ATL Technology

Yn 2023, prynodd ATL Technology weithrediadau gweithgynhyrchu Gyrus Medical yng Nghaerdydd oddi wrth Olympus Surgical Technologies Europe. Mae ATL yn ddarparwr gwasanaethau dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu allanol i'r farchnad dyfeisiau meddygol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Pureability

Ymgynghoriaeth datblygu cynnyrch arbenigol yw Pureability, sy’n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr gofal iechyd. Mae'r cwmni'n darparu cyngor ar ddatblygu cynnyrch, gan gynnwys ymchwil, prototeipio, gweithgynhyrchu, achredu, marchnata a logisteg.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Mariposa Therapeutics

Mae Mariposa Therapeutics yn gwmni deillio o Neem Biotech sy'n canolbwyntio ar ddatblygu therapïau ar gyfer clefydau sy'n gysylltiedig â ceratin. Yn dilyn astudiaethau cyn-glinigol, mae Mariposa yn datblygu rhaglen arweiniol i fynd i dreialon clinigol i drin Epidermolysis bullosa simplex.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Copner Biotech

Cwmni biotechnoleg yw Copner Biotech sy’n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ym maes meithrin celloedd 3D. Mae proses ddylunio a gweithgynhyrchu Copner yn galluogi cynhyrchu sgaffaldau meithrin celloedd i gynrychioli amodau ffisiolegol yn y corff yn well, gan ddarparu manteision arbrofol ar gyfer ymchwil mewn meysydd sy'n astudio microamgylcheddau celloedd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Ultrasound Technologies

Mae Ultrasound Technologies yn darparu datrysiadau uwchsain Doppler ar gyfer ystod o ddefnyddiau clinigol. Mae cynnyrch y cwmni’n cynnwys profion Doppler ffetysol llaw, profion Doppler fasgwlaidd llaw a chyfuniad llaw, a phrofion Doppler bwrdd gwaith a llaw ar gyfer asesu’r ffetws a chynnal asesiadau fasgwlaidd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Rescue & Medical

Mae Rescue & Medical yn wneuthurwr dyfeisiau meddygol sy’n arbenigo mewn cyflenwadau meddygol brys, gan gynnwys pecynnau ocsigen, pecynnau ymatebwyr cyntaf, pecynnau a chludwelyau. Mae Rescue & Medical yn cyflenwi cynhyrchion meddygol i gwsmeriaid, gan gynnwys timau gofal critigol a’r Weinyddiaeth Amddiffyn

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

ONYA Therapeutics

Mae ONYA Therapeutics yn gwmni biotechnoleg newydd ac yn gwmni deillio o Neem Biotech, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu therapïau gwella clwyfau newydd drwy atal heintiau bacteriol. Mae gan ONYA dri chynnyrch ar y gweill sydd ar wahanol gamau o ddatblygiad cyn-glinigol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Polygenyn

Mae Polygenyn yn ddarparwr gwasanaeth profi DNA, sefydlogi protein a thechnoleg amaeth, ac mae hefyd yn cynnig cynhyrchion fel nwyddau traul a phecynnau diagnostig.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: