Nordic Care

Mae Nordic Care yn cyflenwi cynnyrch gofal iechyd, gan gynnwys datrysiadau ar gyfer gofal briwiau pwyso, symud, trin a thrafod, lleoli, gofal gan unigolyn a gofal ystafell ymolchi. Mae Nordic yn darparu’r datrysiadau hyn i’r GIG, Awdurdodau Lleol, Gofalwyr ac Unigolion.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Neem Biotech

Mae Neem Biotech yn gwmni darganfod cyffuriau sy'n canolbwyntio ar ganfod moleciwlau bach i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthfacterol. Ar ôl darganfod moleciwlau addawol, mae’r cwmni wedi creu tri chwmni deillio i ddatblygu a masnacheiddio’r asedau hyn ymhellach; Mootral, ONYA Therapeutics a Mariposa Therapeutics.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Iterate Design & Innovation

Ymgynghoriaeth dylunio peirianneg sy’n canolbwyntio ar gynnyrch yw Iterate Design & Innovation, sydd wedi’i leoli yng Nghymru a Llundain. Mae Iterate wedi dylunio sawl dyfais feddygol, gan gynnwys dyfeisiau y gellir eu gwisgo, dyfeisiau diagnostig a deunydd pecynnu dyfeisiau geneuol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

IQ Endoscopes

Cwmni dyfeisiau meddygol sy’n cynnig endosgopau hyblyg, untro yw IQ Endoscopes. Mae’r cwmni’n bwriadu cyflwyno ystod lawn o endosgopau GI rhwng 2024 a 2025.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Homeglow

Mae Homeglow wedi creu B-Warm, gorchudd sedd wedi’i wresogi sydd wedi’i gynllunio ar gyfer cleifion sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty, fel y rheini sydd â phroblemau symudedd a'r rheini sy’n dioddef o wynegon.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

GX Group

Mae GX yn ymgynghoriaeth dylunio cynnyrch sy’n cynnig gwasanaethau i’r sectorau meddygol a gwyddorau bywyd i ddatblygu cynnyrch fel dyfeisiau diagnostig ac offerynnau labordy.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Frontier Medical Group

Mae Frontier Medical yn ddarparwr dyfeisiau meddygol ar gyfer datrysiadau gofal briwiau pwyso, gan gynnwys arwynebau cynnal, unedau troi cleifion, tiwbiau anadlu a dodrefn.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

EuroCaps

Mae EuroCaps yn Gynhyrchydd Contract Capsiwlau Softgel sy’n cyflenwi'r marchnadoedd ychwanegiadau maeth ac OTC fferyllol. Mae’r cwmni’n gweithredu cyfleuster GMP sydd wedi’i drwyddedu gan Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y DU (MHRA).

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

E2L

Mae E2L yn gwmni dylunio a gweithgynhyrchu peirianneg cynhyrchion electronig. Mae gan y cwmni ddwy adran, gydag un yn canolbwyntio ar ddylunio caledwedd electronig a meddalwedd wedi’i fewnosod, a’r llall sy’n gweithgynhyrchu ac yn marchnata ei gynnyrch ei hun. Mae’r cwmni wedi datblygu sawl cynnyrch yn y diwydiant gofal iechyd, gan gynnwys offer hyfforddi ac offer ar gyfer gofal dementia.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Curapel

Mae Curapel yn datblygu cynnyrch dermatolegol i drin psoriasis ac ecsema ar y croen, yn ogystal ag amryw o ddefnyddiau cosmetig. Mae’r rhain yn cynnwys ychwanegion bwyd a hufenau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: