Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch

Mae’r Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch yn gyllidwr arloesedd gan lywodraeth y DU ar gyfer Amddiffyn a Diogelwch. Ein nod yw canfod ac ariannu arloesedd y gellir manteisio arno er mwyn sicrhau dyfodol mwy diogel. Mae gennym amrywiaeth o gyllid i gyflymu syniadau o unrhyw sector er budd Amddiffyn a Diogelwch. Rydyn ni eisiau syniadau gan amrywiaeth eang o arloeswyr ac mae gennym dîm o bartneriaid arloesi, o bob cwr o’r DU, sydd yma i helpu i arwain y rheini sydd â diddordeb yn y cyllid sydd ar gael.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Academi Dysgu Dwys Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth, Prifysgol Abertawe

Mae Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth Prifysgol Abertawe yn Academi Dysgu Dwys sy’n cynnig cyrsiau addysgol, cyfleoedd ymchwil a gwasanaethau ymgynghori ar gyfer Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth. Yr Academi yw partner academaidd y rhaglen Gwerth-mewn-Iechyd yng Nghymru ac mae’n rhan o Hyb Arloesi Byd-eang Fforwm Economaidd y Byd ar gyfer Gwerth mewn Gofal Iechyd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Health & Her

Mae Health & Her yn darparu atchwanegiadau maethol i fenywod sy’n dioddef o’r menopos neu’r peri-menopos. Mae gan Health & Her hefyd gymhwysiad symudol sy’n cynnwys traciwr symptomau ac adnoddau dysgu.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Algae Products International

Mae Algae Products International yn darparu cynnyrch a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â microalgae, gan gynnwys ar gyfer y sectorau cosmetig, bwyd, amaethyddiaeth a fferyllol. Mae’r cynhyrchion a gynigir yn cynnwys cyfansoddion sy’n deillio o ficroalgae, tra bod gwasanaethau’n cynnwys ymchwil bersonol i gymwysiadau microalgae.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Arcus Compliance

Mae Arcus Compliance yn gwmni ymgynghori rheoleiddiol sy’n arbenigo yn y diwydiannau vape, colur, dyfeisiau meddygol ac iechyd oedolion. Mae’r cwmni’n darparu gwasanaethau ymgynghori, gan gynnwys ymgynghori ar reoli ansawdd ac ymgynghori ar strategaethau cydymffurfio, yn ogystal â gwasanaethau technegol fel profion dadansoddol. Mae’r cwmni hefyd yn darparu meddalwedd fel offer gwasanaeth sy’n cynnwys gwybodaeth i helpu cwmnïau i reoli cyflwyniadau rheoleiddiol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

EuroCaps

Mae EuroCaps yn Gynhyrchydd Contract Capsiwlau Softgel sy’n cyflenwi'r marchnadoedd ychwanegiadau maeth ac OTC fferyllol. Mae’r cwmni’n gweithredu cyfleuster GMP sydd wedi’i drwyddedu gan Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y DU (MHRA).

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Curapel

Mae Curapel yn datblygu cynnyrch dermatolegol i drin psoriasis ac ecsema ar y croen, yn ogystal ag amryw o ddefnyddiau cosmetig. Mae’r rhain yn cynnwys ychwanegion bwyd a hufenau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Biopharm Leeches

Biopharm Leeches sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o’r gelod a ddefnyddir mewn meddygaeth fodern ledled y byd. Mae'r gelod yn cael eu defnyddio mewn llawfeddygaeth blastig ac adluniol ledled y byd, yn ogystal â mewn ymchwil barhaus i leddfu symptomau osteoarthritis.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

PharmaPack

Mae PharmaPack yn gwmni pecynnu fferyllol sydd wedi’i leoli yng Nghonwy. Mae PharmaPack wedi’i gymeradwyo gan MHRA ac mae’n cynnig gwasanaethau i gwmnïau fferyllol, cosmetig a maeth, gan gynnwys llenwi hylif, hufen, sachet a photeli, labelu, bargodio, tynlapio, warysau a storio, a dylunio pecynnau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

An-ex Analytical Services

Mae An-ex yn sefydliad ymchwil a datblygu contractau annibynnol sy’n cynnig amrywiaeth o ddatrysiadau gwyddor y croen i’r sectorau fferyllol, cemegol a chosmetig. Mae gwasanaethau An-ex yn cynnwys rhagfynegiad o arsugno croenol, trwy'r croen ac ewinol, datblygu fformwleiddiadau i weithio ar y croen, trwy'r croen ac ar ewinedd, ffurfio a gwerthuso dyfeisiau, ac arbrofi a chynnig barn i gefnogi ymgyfreitha patentau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: