Mae platfform monitro cleifion o bell Huma yn rhannu gwybodaeth iechyd rhwng cleifion a thimau clinigol. Mae ei dechnoleg yn cynnwys Ap Cleifion ar ffonau clyfar a Phorth i Glinigwyr ar borwyr gwe. Mae’r Ap Cleifion yn cofnodi data iechyd, fel curiad y galon, pwysedd gwaed, dirlawnder ocsigen, tymheredd a phwysau.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (ar y pryd):

“Mae’r cynllun peilot hwn yn dangos sut mae technoleg yn gallu gwella gofal, helpu pobl i aros yn annibynnol a rhyddhau lle yn yr ysbyty ar yr un pryd. Mae ein Cronfa Atebion Digidol yn ein helpu i gynnal treialon bach ond cyflym o dechnoleg ddigidol sy’n gallu gwella gofal a gwella sut mae ein clinigwyr yn gweithio.


“Mae ‘Cymru Iachach’, ein strategaeth ar gyfer iechyd a gofal, yn nodi bod technoleg ddigidol yn sbardun ar gyfer darpariaeth effeithiol ac effeithlon nawr ac yn y dyfodol. Mae’r cynllun peilot hwn yn dangos y potensial ar gyfer casglu a rhannu data o bell rhwng cleifion a chlinigwyr. Mae’r Gronfa Atebion Digidol wedi rhoi sawl cyfle i ni dreialu technoleg ddigidol a deall beth y gellir ei gyflawni.”