Rydyn ni’n falch iawn o lansio adnoddau newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yr Adnodd Cyflawni Arloesi. Bydd y rhain yn helpu rhanddeiliaid sy’n gweithio ar draws diwydiant a’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol drwy gynnig amrywiaeth gynyddol o adnoddau, arferion gorau a gwybodaeth wrth iddyn nhw roi arloesedd ar waith. 

Bulbs

Pa un a yw’n entrepreneur sydd â syniad newydd gwych neu’n adran arbennig mewn sefydliad gwyddorau bywyd mawr, mae gan ddiwydiant ran bwysig i’w chwarae mewn arloesi ym maes iechyd, gofal, a lles. Mae pob sefydliad, o fusnesau newydd i gorfforaethau rhyngwladol, wedi dangos bod eu hadnoddau, arbenigedd a sgiliau yn gallu gwneud gwahaniaeth mewn canlyniadau i gleifion yng Nghymru. 

Ein nod yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflymu’r broses o ddatblygu a mabwysiadu dulliau arloesol drwy feithrin cydweithio rhwng disgyblaethau. Rydyn ni wedi gweld yn uniongyrchol sut mae diwydiant yn gallu helpu i ddiwallu anghenion o ran iechyd a gofal cymdeithasol wrth iddynt ddatblygu – drwy fynd i’r afael â heriau difrifol fel yr heneiddio yn ein poblogaeth a’r angen i gyflwyno dulliau technolegol sy’n fwyfwy cymhleth. 

Mae dull cydgysylltiedig o weithredu rhwng rhanddeiliaid yn yr holl ddisgyblaethau yn hollbwysig i gyflawni hyn. Os bydd syniad arloesol gan gwmni gwyddorau bywyd i wella agwedd ar ofal iechyd, bydd angen cynnwys partneriaid ar draws diwydiant a’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn ei roi ar waith. Fodd bynnag, gall rhwystrau godi os nad yw pob sector yn llwyr ddeall ffyrdd o weithio’r partneriaid eraill. Mae pob un ohonynt yn gymhleth, gyda’i arferion gweithio sefydledig, ei ddiwylliant a’i ymagwedd ei hun at arloesi. 

Sicrhau arloesi 

Sut allwn ni ddatrys y diffyg cyswllt hwn? Bydd iaith gyffredin a chyd-ddealltwriaeth yn lle da i ddechrau bob amser. Yn ffodus, mae digonedd o lenyddiaeth a gwybodaeth ar gael am yr arferion gorau wrth wella cydweithredu a sicrhau arloesi cyflym ar raddfa fawr ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Er hynny, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau wrth chwilio drwy’r cyfoeth o wybodaeth. Er mwyn eich helpu, rydyn ni wedi datblygu’r Adnodd Arloesedd ar-lein. 

Bydd yr adnoddau hyn yn datblygu’n barhaus i helpu gweithwyr mewn diwydiant ac yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i ddod o hyd i’r wybodaeth ac arferion perthnasol. Yr adnoddau cyntaf yw Cyfeiriadur Polisïau i hwyluso cysylltu ar gyfer arloesi yng Nghymru, cyfres o flogiau gan arweinwyr syniadol ac adroddiad am dystiolaeth ar Sicrhau Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae’r adroddiad hwn yn hybu’r ymdrechion i greu iaith gyffredin a chyd-ddealltwriaeth ar draws sectorau sy’n ymwneud ag arloesi. Mae’n crynhoi llenyddiaeth a thystiolaeth o lawer math mewn dogfen hawdd ei deall. Mae’n trafod beth yw arloesi, y cyd-destun ar gyfer arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol, beth sy’n ei wneud yn anodd, sut i lwyddo, a sut i fesur llwyddiant. 

Dechrau sgwrs 

Rydyn ni wedi rhannu’r adroddiad hwn ag arweinwyr ar draws diwydiant, llywodraeth a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn dechrau’r sgwrs hon am ddull cyffredin o arloesi. Mae’r arweinwyr hyn yn rhannu eu syniadau am yr adroddiad hwn a’u barn a’u profiad eu hunain o ran arloesi drwy bostio blogiau. 

Wrth lansio’r adnoddau hyn, rydyn ni’n cynnwys dau flog sy’n ategu ei gilydd. Mae’r cyntaf gan Miles Burrows, Rheolwr Gyfarwyddwr Perkin Elmer yn y DU ac Iwerddon, lle mae’n edrych ar beth mae angen i ddiwydiant ei ystyried er mwyn arloesi’n llwyddiannus. Mae Dr. Chris Subbe wedi cynnig persbectif gwahanol ynghylch pam y dylai arloesi ddod yn arfer mewn sefydliadau, gan fanteisio ar ei brofiad helaeth fel Meddyg Ymgynghorol Anadlol Acíwt ac Uwch Ddarlithydd Clinigol, a’i amser yn gweithio mewn partneriaeth â diwydiant. 

Byddwn yn ychwanegu rhagor o flogiau at yr Adnodd Arloesedd ar-lein gan arweinwyr syniadol mewn diwydiant, y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a llywodraeth. Bydd cefndiroedd a setiau sgiliau amrywiol gan bob blogiwr, ond byddant yn rhannu’r nod a’r cyfrifoldebau ar gyfer sicrhau arloesi cyflym yng Nghymru i helpu i drawsnewid ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae croeso mawr i chi gymryd rhan yn y sgwrs hefyd. Byddwn yn rhannu cynnwys drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol – yn cynnwys LinkedIn a Twitter. Rhowch wybod i ni am eich syniadau – byddant yn ein helpu i gynllunio ein cymorth ar gyfer diwydiant a’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn iddynt gydweithio’n fwy effeithiol byth yn y dyfodol. 

Mae Adnodd Sicrhau Arloesi newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnwys dewis cynyddol o adnoddau i helpu arloeswyr i ddechrau cyflawni hyn drwy fecanweithiau o’r fath.