Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Cynhadledd Edrych yn Fanylach y Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial oedd y cyntaf o’i math yng Nghymru, gan ddod â gweithwyr proffesiynol, clinigwyr ac arweinwyr diwydiant at ei gilydd i archwilio rôl esblygol Deallusrwydd Artiffisial (AI). 

LSHW Team at the AI Commission Conference

Drwy gydol y dydd, roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar sut y mae deallusrwydd artiffisial yn gallu cael ei harneisio i wella bywydau ac yn gwneud hynny ar hyn o bryd, gwella gofal iechyd, a sicrhau gweithredu moesegol, tryloyw a chynhwysol. Wrth osod y naws ar gyfer y diwrnod, pwysleisiodd y cyflwynydd a’r cymedrolwr Sian Lloyd y canlynol:

“Rydyn ni’n clywed llawer am ddeallusrwydd artiffisial, ond dydyn ni ddim bob amser yn gweld y newid yn ein profiadau bob dydd – yn enwedig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae heddiw’n ymwneud â meddwl yn feirniadol am ddatblygiadau arloesol deallusrwydd artiffisial a sut maen nhw’n berthnasol i’ch meysydd chi.” 

Anerchiad y Gweinidog Sarah Murphy

Cyflwynodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant anerchiad angerddol, yn dathlu camau Cymru ym maes gofal iechyd sy’n cael ei yrru gan ddeallusrwydd artiffisial.

“Mae diagnosis o strôc gyda chymorth deallusrwydd artiffisial ar gael ym mhob rhan o Gymru. Mae’n cefnogi diagnosis cyflymach o ganser y prostad a chanser y fron, ac mae wedi’i integreiddio yn ein Hadnoddau Data Cenedlaethol, gan sicrhau ein bod yn dod â manteision technoleg i’r 3 miliwn o bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu.”

Pwysleisiodd Sarah, er bod yn rhaid i Gymru nid yn unig feithrin arloesedd, y dylai gweithredu deallusrwydd artiffisial gyd-fynd â gwerthoedd partneriaeth gymdeithasol hefyd. Un neges allweddol drwy gydol y dydd oedd sicrhau’r cyhoedd a’r gweithlu bod deallusrwydd artiffisial yn cefnogi swyddi yn hytrach na’u bygwth.

“Wrth i ddeallusrwydd artiffisial ddod yn fwy annatod yn ein ffordd o fyw, mae’n bwysig bod gweithwyr a chyflogwyr yn rhan o’r daith honno, fel bod pawb yn elwa o arloesi a chynnydd parhaus. Rhaid i ddeallusrwydd artiffisial fod yn dryloyw, yn foesegol ac yn ddibynadwy. Dylai fod yn gynhwysol ac yn hygyrch, wedi’i ddylunio i gefnogi, a gwella rolau, nid disodli ein gweithlu.”

Gorffennodd Sarah gyda galwad bwerus am gydweithio:

“Gyda’n gilydd, gallwn wella bywydau a gwella gwasanaethau. Ond rhaid i’r dyfodol hwn gael ei lunio gyda gofal, gan sicrhau bod egwyddorion diogelwch, tegwch a chyfrifoldeb moesegol wrth galon pob penderfyniad a wnawn. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd, a thrwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn rym er lles, i bawb.” 

Meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd mewn deallusrwydd artiffisial 

Un o themâu canolog y gynhadledd oedd pwysigrwydd defnydd moesegol o ddeallusrwydd artiffisial ac ymddiriedaeth y cyhoedd. Roedd trafodaethau’n pwysleisio’r angen am gyfrinachedd, tryloywder, ac i fynd â’r cyhoedd gyda ni ar y daith, gan sicrhau eu bod yn cymryd rhan weithredol yn natblygiad deallusrwydd artiffisial.

Yn gyffredinol, yn enwedig ym maes gofal iechyd, mae deallusrwydd artiffisial yn parhau i fod yn drawsnewidiol. Un enghraifft yw rhaglen canfod cynnar Canser y Prostad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda deallusrwydd artiffisial, sy’n defnyddio data delweddu a yrrir gan ddeallusrwydd artiffisial i wella cyflymder a chywirdeb diagnosis.

Aeth Ian Hulme, Cyfarwyddwr Sicrwydd Rheoleiddio, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, i’r afael â phryderon y cyhoedd:

“Mae ofn cynhenid ynghylch deallusrwydd artiffisial, sef y bydd y ‘robotiaid yn cymryd drosodd’. Ond mae’n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ar dryloywder, atebolrwydd a meithrin hyder y cyhoedd.”

Mae hyn yn gosod y naws, nad yw’r sgwrs yn ymwneud ag ofni deallusrwydd artiffisial, mae’n ymwneud â sut rydyn ni’n ei integreiddio’n gyfrifol i greu dyfodol gwell i bawb. 

Adnodd cynorthwyol, nid adnodd sy’n disodli 

Rhoddodd Mike Emery, Cyfarwyddwr Digidol a Thechnoleg, Llywodraeth Cymru a’r Prif Swyddog Digidol, bersbectif cryf ar rôl deallusrwydd artiffisial o ran gwella, yn hytrach na disodli swyddogaethau dynol. Roedd yn cydnabod bod ofnau’r cyhoedd ynghylch ‘deallusrwydd artiffisial’ yn aml yn cael eu siapio gan ffilmiau a chyfryngau dystopaidd, gan dynnu sylw at yr angen i ddangos manteision deallusrwydd artiffisial yn y byd go iawn.

"Mae wedi'i gynllunio i gynorthwyo a gwella gweithgareddau dynol, nid eu disodli. Ond yr angen, fel y dywedodd y gweinidog, mae’n rhaid i ni sefydlu canllawiau moesegol i feithrin mwy o ymddiriedaeth yn y ffordd mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio.”

Rhannodd Mike stori bersonol iawn hefyd am brofiad ei ferch o dechnolegau cynorthwyol sy’n cael eu pweru gan ddeallusrwydd artiffisial, sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i’w bywyd.

“Mae’r dechnoleg yn gyffrous, ond mae’n rhaid i ni gofio pam rydyn ni’n gwneud hyn, sef er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Meddyliwch am eich teuluoedd eich hun a’r bobl o’ch cwmpas. Gadewch i hynny fod yn ysbrydoliaeth i chi wrth ddatblygu atebion deallusrwydd artiffisial. Cofiwch am hynny, wrth feddwl am yr hyn y gall deallusrwydd artiffisial ei wneud – newid canlyniadau i bobl er gwell, gwella bywydau pobl, defnyddio deallusrwydd artiffisial i gynnal ein dynoliaeth, a sut rydyn ni’n ymdrin â gofal a pheidio â’i golli.” 

Effaith deallusrwydd artiffisial ar effeithlonrwydd y gweithlu 

Roedd trafodaeth allweddol arall yn canolbwyntio ar sut y gall deallusrwydd artiffisial leddfu beichiau gweinyddol a symleiddio prosesau gofal iechyd. Yn y sesiwn, ‘Datblygiadau ym maes Deallusrwydd Artiffisial’, pwysleisiodd y siaradwyr botensial deallusrwydd artiffisial i greu arbedion effeithlonrwydd.

Tynnodd Jacob West, Rheolwr Gyfarwyddwr, Microsoft UK, sylw at sut mae offer sy’n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial fel Microsoft 365 CoPilot, yn ychwanegu at feysydd yn ystod y diwrnod gwaith.

“Rydyn ni’n gweld dros 30-40 munud y dydd yn cael ei arbed i weithwyr gofal iechyd – mewn persbectif ehangach, mae’n cyfateb i 2-3 wythnos o waith o fewn blwyddyn.”

“Gallai proses rhyddhau meddyg iau, sy’n cymryd tua 15 munud ar hyn o bryd, gael ei lleihau i ddim ond 2 funud gyda chymorth deallusrwydd artiffisial. Meddyliwch am yr amser sy’n cael ei arbed ar draws ysbyty cyfan.”

Yn yr un modd, gallai integreiddio cynorthwywyr wedi’u pweru gan ddeallusrwydd artiffisial wella effeithlonrwydd llif gwaith yn sylweddol, gan ryddhau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ganolbwyntio mwy ar ofal cleifion.

Trafododd Diane Gutiw, Is-Lywydd, Arweinydd Canolfan Ymchwil Deallusrwydd, CGI, y cyfleoedd sy’n dod yn sgil deallusrwydd artiffisial, gweld triniaethau mwy personol, trawsgrifio, a mynediad at ofal – gan ganiatáu i bobl yn y system ofal fod gartref am fwy o amser.

“Er nad oes neb yn mynd i fod mor empathig â ni fel bodau dynol, gallwn gryfhau ein galluoedd a’n heffeithlonrwydd, gan roi mwy o annibyniaeth i bobl ar yr un pryd.”

Trafododd Diane hefyd rôl deallusrwydd artiffisial wrth ganfod canser yn gynnar:

“Mae deallusrwydd artiffisial yn ein galluogi i ganfod patrymau ac anomaleddau nad ydynt o bosibl yn weladwy i’r llygad dynol. O ddadansoddi delweddau i ragfynegi risgiau cleifion, mae’n newid byd ar gyfer diagnosteg.”

Gwella sgiliau’r gweithlu ar gyfer dyfodol deallusrwydd artiffisial

Wrth i ddeallusrwydd artiffisial ail-lunio effeithlonrwydd y gweithlu, roedd galw cryf am uwchsgilio gweithlu heddiw a gweithlu’r dyfodol.

Pwysleisiodd Dr James Peake, Uwch Is-lywydd, CGI, fod buddsoddi yn y gweithlu yr un mor hanfodol â buddsoddi mewn technoleg.

“Allwn ni ddim gwario ar dechnoleg yn unig. Rhaid i ni hefyd ddeall rhwystrau sefydliadol a buddsoddi yn sgiliau ein pobl. Os mai cyllideb, neu gymhelliant, yw’r rhwystrau, ni fydd deallusrwydd artiffisial yn unig yn datrys hynny, mae deallusrwydd artiffisial yn adnodd i gefnogi atebion. Mae technoleg yn bwysig, er bod dychymyg a disgyblaeth wrth ddefnyddio’r dechnoleg yn mynd i fod yn allweddol”.

I grynhoi, roedd y gynhadledd yn fforwm a oedd yn procio’r meddwl ar gyfer trafod potensial, heriau a chyfeiriad deallusrwydd artiffisial yn y dyfodol. Er bod potensial AI yn enfawr, ailadroddodd y siaradwyr a’r panelwyr fod ei lwyddiant yn dibynnu ar ddefnydd moesegol, meithrin ymddiriedaeth, a gweithredu sy’n canolbwyntio ar bobl. Fel y pwysleisiodd Mike Emery:

“Mae’r potensial yno, ond os nad ydyn ni ar flaen y gad, rydyn ni’n gwneud cam â’n cymunedau.”

Drwy feithrin cydweithio, cofleidio fframweithiau moesegol, ac arfogi’r gweithlu â’r sgiliau cywir, gall deallusrwydd artiffisial ddod yn rym er lles, gan drawsnewid gofal iechyd a chymdeithas sy’n ystyrlon ac yn gyfrifol. 

Cadwch mewn cysylltiad, rhannwch eich syniadau, a byddwch yn rhan o’r dirwedd hon sy’n esblygu.

Os hoffech chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeallusrwydd artiffisial ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, e-bostiwch helo@hwbgbcymru.com i gofrestru ar gyfer cylchlythyr y Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial.