Mae miloedd o bobl ledled Cymru yn astudio ar gyfer cymwysterau ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a digidol ar hyn o bryd. Sut gallwn ni eu hysbrydoli i ddefnyddio eu sgiliau sy’n datblygu i sbarduno trawsnewid digidol ac arloesi?
Mae fy mlog yn archwilio sut mae Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) yn gwneud hyn drwy fentrau fel y Gynhadledd Technoleg Ddigidol mewn Iechyd.
Roedd y digwyddiad yn gwahodd arloeswyr digidol a’r bobl sy’n gwneud newidiadau i ennyn diddordeb ym mhŵer ac effaith arloesedd digidol ymhlith myfyrwyr yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Roeddwn i a Louise Baker (Arweinydd y Prosiect) hefyd ar yr agenda i gynnig ein safbwynt ein hunain.
Gan bwy y clywsom ni?
Cafwyd amrywiaeth wych o sgyrsiau drwy gydol y dydd. Roedd hyn yn cynnwys yr holl arloesi anhygoel sy’n digwydd ym Mhrifysgol De Cymru a’i ddefnydd yn y byd go iawn. Gwnaeth Dr Mabrouka Abuhmida (Uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifiadura) daflu goleuni ar brototeipiau deallusrwydd artiffisial sy'n cael eu creu'n fewnol, gan gynnwys rheoli llwybrau diagnosis a gwyliadwriaeth, systemau ysbyty clyfar sy'n awtomeiddio galwadau meddygon teulu, a sgwrsfotiaid sy'n darparu cymorth iechyd meddwl.
Roedden ni’n falch iawn bod cymaint o hyn wedi’i gwblhau heb gyllideb a’u bod yn brosiectau gan fyfyrwyr yn bennaf. Mae gwaith o’r fath yn amlygu’r effaith y gallwch chi ei chael drwy ddefnyddio trawsnewid digidol hyd yn oed wrth astudio.
Rhoddodd Simon Read (Uwch-ddarlithydd mewn Arwain Trawsnewid Digidol) bersbectif gwych ar brosiectau yn y Brifysgol sy'n dod ag arloesedd yn fyw. Mae hyn yn cynnwys cydweithio â Hydra i gynnal ymarferion golau glas. Pwysleisiodd yn fawr pa mor bwysig yw gweithio ar draws sectorau – rhywbeth y mae ein sefydliad ni, wrth gwrs, yn ei ddeall.
Roedd Goggleminds hefyd yn arddangos eu hadnodd addysgol rhith-wirionedd, gan ddarparu arddangosiad byw. Maen nhw wedi creu ‘medi-fyd’ (yn debyg i'r metafyd a geir ar Facebook) lle gallwch chi ymarfer rhyngweithio â chleifion sydd ag amrywiaeth o bersonoliaethau i ddynwared profiad go iawn. Roeddem hefyd yn falch o fod wedi cefnogi Goggleminds yn gynharach yn eu taith arloesi fel rhan o’r Rhaglen Cyflymu.
Clywsom hefyd am waith cyffrous sy’n digwydd mewn Byrddau Iechyd. Siaradodd Alka Ahuja (Seicolegydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol TEC Cymru) am ei gwaith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hi wedi cefnogi prosiectau amrywiol sy’n defnyddio technoleg i leihau hunan-niweidio a chefnogi cyflwyniadau iechyd meddwl eraill. Mae hi hefyd wedi creu ap cymorth anhwylder bwyta ac wedi gweithio ar brosiectau yn yr ysgol i gyflwyno monitro o bell.
Am beth wnaethon ni siarad?
Roeddwn i a Louise yn mwynhau’r cyfle i rannu safbwynt Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar arloesi digidol. Fe wnaethon ni dynnu sylw at rôl ein sefydliad yn yr ecosystem gymhleth hon a rhai o’r gwahanol brosiectau rydyn ni wedi’u cefnogi, gan gynnwys QuicDNA, Rhaglen Cymru Gyfan ar gyfer Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg a gwerthusiad rheoli meddyginiaethau digidol.
Roedd hi’n gymaint o fraint cael siarad ag arloeswyr y dyfodol a thynnu sylw at ein teithiau ein hunain sydd wedi ein harwain at weithio yn y maes hwn. Mae cydweithio go iawn yn gofyn bod pobl yn dod at ei gilydd gydag amrywiaeth eang o gefndiroedd a sgiliau – ac mae cynifer o lwybrau y gall pobl eu dilyn i fod yn arloeswyr digidol. Gall y profiad amrywiol hwn ein helpu i greu atebion ystyrlon sy’n manteisio i’r eithaf ar dalentau ac arbenigedd pawb.
Gobeithio bod rhai o'r myfyrwyr yn y digwyddiad hwn wedi cael eu hysbrydoli i ddechrau eu camau cyntaf ar y llwybr cyffrous hwn a helpu i newid bywydau pobl yng Nghymru er gwell. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at unrhyw ddigwyddiadau sydd ar y gweill ac at weithio gyda Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru yn y dyfodol.
Os hoffech chi ddysgu sut mae ein tîm yn cefnogi arloeswyr digidol i gyflwyno eu hatebion i’r rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at hello@lshubwales.com.
Mae Molly’n un o Raddedigion Rheoli Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda phrofiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’i Adran Achosion Brys, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Yn ddiweddar fe ymunodd Molly â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel Arweinydd Prosiect yn nhîm cyflawni’r rhaglen