Am y rôl

Mae gennym gyfle gwych i Gynorthwyydd Strategol profiadol ymuno â’n tîm yn y rôl ddibynadwy hon, sy’n gweithio gyda’n Prif Swyddog Gweithredol ac yn ei gefnogi’n uniongyrchol. 

Yn y swydd hon, bydd cyfrinachedd, trin gwybodaeth sensitif a’r gallu i ymdopi â blaenoriaethau, gan sicrhau bod ein Prif Swyddog Gweithredol yn cael ei gefnogi’n llawn, yn ail natur i chi.  Gyda hanes llwyddiannus o ddarparu cefnogaeth weinyddol a gweithredol lefel uchel i Brif Weithredwr neu ar lefel Cyfarwyddwr Bwrdd, byddwch yn meddu ar broffesiynoldeb, diplomyddiaeth a’r gallu i gyflawni drwy gydlynu gweithgareddau ar draws ein tîm.

Byddwch yn gyfforddus yn delio â dogfennau a data manwl, sy’n aml yn gymhleth, a byddwch yn troi’r rhain yn gyflwyniadau, areithiau neu adroddiadau grymus ar gyfer cynulleidfaoedd priodol.  

Bydd eich rôl hefyd yn cynnwys:

  • Materion Cyhoeddus ac Ymgysylltu Strategol
  • Rheoli Prosiectau
  • Cynllunio a rheoli dyddiadur
  • Cefnogi a chydlynu digwyddiadau allanol ar ran ein Prif Swyddog Gweithredol gyda rhanddeiliaid allweddol fel y GIG a Llywodraeth Cymru
  • Casglu adroddiadau manwl y Bwrdd, y Pwyllgor ac adroddiadau manwl eraill, ynghyd â gwybodaeth reoli ar ran y Prif Swyddog Gweithredol
  • Gweithio’n agos gyda’n tîm Cyfathrebu i ddarparu sesiynau briffio manwl ar gyfer areithiau’r Prif Swyddog Gweithredol ac eitemau newyddion

Gweler y Disgrifiad Swydd i gael rhagor o fanylion am y cyfle hwn.

Pam gweithio i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru?

  • Ymunwch â ni a bod yn aelod o dîm bach, ystwyth a chyfeillgar 
  • Diwylliant gweithio hyblyg a chefnogol, gan gynnwys cynllun Oriau Hyblyg
  • Cydbwysedd cefnogol rhwng bywyd a gwaith, gyda hawl hael i wyliau - 30 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus yn ychwanegol 
  • Cynllun pensiwn gyda chyfraniad o 7% gan y Cyflogwr

Gwnewch cais nawr!

Anfonwch eich CV diweddaraf a datganiad ategol (dim mwy na dwy dudalen o hyd) drwy anfon e-bost atom yn careers@lshubwales.com gan nodi pam rydych chi o’r farn mai chi yw’r person gorau ar gyfer y cyfle cyffrous hwn, ac yn egluro sut rydych chi’n bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd. Hefyd, llenwch ein ffurflen monitro amrywiaeth wrth wneud cais.

application/vnd.openxmlformats-officedocument.wordprocessingml.document - 40.8 KB

 

 

 

 

Bydd angen i’ch cais ddod i law erbyn hanner dydd ar 18 Gorffennaf 2024 fan bellaf.

Cynhelir y cyfweliadau yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd ar ddydd Mawrth 30 Gorffennaf 2024.

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol gychwynnol am y rôl hon, cysylltwch â Natalie Parrin, Pennaeth Adnoddau Dynol ar natalie.parrin@lshubwales.com.