Mae amrywiaeth wych o ddigwyddiadau ar gyfer arloeswyr o’r maes diwydiant a maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gael yng Nghymru a thu hwnt. Edrychwch ar ein calendr digwyddiadau i gael gwybod beth sy’n cael eu trefnu gennym ni a sefydliadau blaenllaw sy’n canolbwyntio ar wella iechyd, gofal a lles drwy arloesi.
I gael rhagor o wybodaeth neu i ychwanegu eich digwyddiad at ein rhestr, cysylltwch â hello@lshubwales.com.
Ymunwch â rhanddeiliaid o’r GIG, diwydiant technoleg, y byd academaidd a mwy sy’n arwain cyfeiriad strategol, datblygiad a gweithrediad deallusrwydd artiffisial a thechnoleg mewn gofal iechyd.
Mae’n bleser gennym eich gwahodd i gymryd rhan yn y Gynhadledd Ryngwladol gyntaf ar Ddeallusrwydd Artiffisial mewn Gofal Iechyd a gynhelir yn Abertawe rhwng dydd Mercher 4 Medi a dydd Gwener 6 Medi 2024.
Sioe HETT: Rhagoriaeth Iechyd drwy Dechnoleg 2024 – y prif ddigwyddiad ar gyfer yr ecosystem Technoleg Gofal Iechyd. Gwerth blwyddyn o rwydweithio, cyfnewid syniadau a chysylltiadau rhwng cyfoedion mewn dim ond dau ddiwrnod!
Y Gynhadledd Genedlaethol ar Ofal Cymdeithasol yw’r cyfle mwyaf blaenllaw i arddangos a rhwydweithio ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Gallai deallusrwydd artiffisial lywio dyfodol gofal iechyd. Ymunwch â’r Uwchgynhadledd Deallusrwydd Artiffisial ym maes Iechyd, i ddatgelu’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig ac i gael mewnwelediadau amhrisiadwy i wireddu newid.
Mae prif ddigwyddiad eleni ar ddeallusrwydd artiffisial (AI) mewn gofal iechyd ac yn y GIG yn dod â rhanddeiliaid o systemau gofal integredig ac uwch arweinwyr y GIG at ei gilydd. Cysylltwch ag arweinwyr blaenllaw a dysgwch gan arbenigwyr sy'n gyrru arloesedd ar draws y GIG.