Trydydd parti

Mae'n hysbys po gyntaf y canfyddir canser, y gorau yw'r siawns o ganlyniad cadarnhaol i gleifion.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar y cyd â Rhwydwaith Canser Cymru a Sefydliad GIG Christie wedi lansio GatewayC ar gyfer Clinigwyr Gofal Sylfaenol mewn practisau cyffredinol yng Nghymru.

e-learning for primary care clinicians

Mae GatewayC yn rhaglen hyfforddi am ddim mewn diagnosis canser cynnar . Mae GatewayC yn cynnwys sut i adnabod yr arwyddion argyfwng hynny sy’n dynodi camau cynnar canser, ac yn eich cefnogi i wneud penderfyniadau clinigol gan wella gofal a chymorth i’r rhai sy’n derbyn diagnosis.

Mae'r hyfforddiant am ddim yn cynnig dros 30 awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar ffurf cyrsiau, gweminarau, a fideos sy’n debyg i raglenni dogfen.

Yn ychwanegol, mae'r cwrs ar ffurf camau bach sy'n galluogi clinigwyr gofal sylfaenol i ddysgu'n hyblyg o amgylch eu hamserlenni prysur. Mae'r platfform hefyd yn caniatáu mynediad gydol oes, felly gall dysgwyr atgyfnerthu popeth maent wedi'i ddysgu ar unrhyw adeg.

Dywedodd yr Athro Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Addysg a Gwella Iechyd Cymru: 

“Mae hwn yn adnodd ar-lein ardderchog y bwriedir ei ddefnyddio am ddim gan gydweithwyr clinigol sy’n gweithio ar draws Gofal Sylfaenol a Chymunedol yng Nghymru. Mae pob modiwl yn dilyn canllawiau NICE NG12 ac yn cynnwys mwy na thri deg awr o DPP. Byddwn yn annog yr holl Ymarferwyr Gofal Sylfaenol a Chymunedol i gyrchu GatewayC gyda’r nod o gynorthwyo diagnosis canser cynharach bydd yn arwain at well gofal i gleifion”.

I gael rhagor o wybodaeth am adnodd GatewayC, ewch i:   Amdanom Ni - GatewayC

I gofrestru ar gyfer GatewayC, ewch i: Cofrestru - Cymru - GatewayC