Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gynnal y Symposiwm Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch a gynhaliwyd ar 16 Mehefin, lle archwiliwyd sut gall y GIG helpu i siapio’r broses o gyflwyno'r therapiwteg hyn yng Nghymru. Darllenwch grynodeb o’r sgyrsiau  diddorol a gyflwynwyd yn ystod y dydd gan y bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau. 

ATW - Rhodri Griffiths

Mae gan therapïau uwch y potensial i drawsnewid gofal iechyd fel ag y mae. Drwy drwsio, disodli neu ail-beiriannu celloedd neu ddeunydd genetig gallem wella canlyniadau neu hyd yn oed wella cleifion lle mae opsiynau am driniaethau eraill yn brin, neu mewn gair, ddim yn bodoli. Mae defnyddio’r therapïau newydd hyn i drin cleifion yn dod yn realiti gyda dwsinau o Gynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch wedi’u cymeradwyo neu y mae disgwyl iddyn nhw gael eu cymeradwyo eleni yn Ewrop.  

Croesawyd pobl ar draws y maes gofal iechyd i’r digwyddiad undydd i glywed gan arweinwyr o fewn y sector. Rhoddodd siaradwyr drosolwg o’r tirlun hwn sy’n dod i’r amlwg a’r hyn sydd angen ei wneud yng Nghymru i siapio cynllun cyflenwi. 

Beth ddigwyddodd drwy gydol y dydd? 

Sesiwn agoriadol 

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Suzanne Rankin, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, sydd hefyd yn Uwch-swyddog Cyfrifol ar gyfer rhaglenni Therapïau Uwch Cymru a Phartneriaeth Genomeg Cymru. Agorodd y diwrnod a rhoddodd y cyflwyniad cyntaf ar y cyd â’n Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Rhodri Griffiths. 

Tynnodd Suzanne sylw at bwysigrwydd cydweithio ar raddfa fawr y tu hwnt i gymorth cychwynnol Llywodraeth Cymru, a phwysleisiodd Rhodri hefyd yr angen am ddull system gyfan ar draws y GIG. Mae angen i bawb - o ystadau i ddigidol a chaffael - helpu timau clinigol i ail-gynllunio’r gweithlu a systemau. 

Darparu persbectif y llywodraeth 

Nododd yr Athro Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru fod y mathau hyn o drafodaethau gweithredu yn gam pwysig ar siwrnai therapïau uwch yng Nghymru. Yn 2017, sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Diddordeb Arbennig Therapi Celloedd a Genynnau yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a arweiniodd yn y pen draw at Ddatganiad o Fwriad ar gyfer Therapïau Uwch Llywodraeth Cymru yn 2019. 

Yna siaradodd am le rydyn ni arni ar y siwrnai o fabwysiadu therapïau uwch. Mae’r Uned Trawsblannu Mêr Esgyrn bresennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn uchafbwynt allweddol, sydd wedi trin dwsinau o gleifion ers 2019. Yma, maen nhw wedi datblygu gwybodaeth a sgiliau a fydd yn bwysig wrth gyflwyno'r therapïau hyn ar draws yr ystod eang o ddangosyddion clinigol sydd ar y gweill.  

Heriau cyflenwi therapiwteg uwch yn y GIG 

Cyflwynwyd y sesiwn nesaf gan Fiona Thistlethwaite, Ymgynghorydd Oncoleg Feddygol yn Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG The Christie, a archwiliodd y rhwystrau sy’n cael eu hwynebu ar y llwybr i fabwysiadu. 

Roedd hyn yn cynnwys y tirlun newidiol o ran treialon ACT, sydd wedi wynebu llu o heriau, gan gynnwys mwy o reoleiddio, rhagofalon diogelwch a llai o gapasiti clinigol. 

Fel siaradwyr eraill, pwysleisiodd bwysigrwydd cydweithio yn ogystal â rhannu arbenigedd a’r hyn a ddysgwyd i oresgyn problemau, yn enwedig oherwydd natur gymhleth caffael, gweithgynhyrchu a chyflenwi ym maes therapïau uwch.  

Darparu therapïau uwch i’r ymennydd  

Cynhaliodd yr Athro Liam Grey sesiwn ynglŷn â defnyddio therapïau uwch mewn niwroleg drwy Uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) yng Nghymru, lle mae’n Gyfarwyddwr.  

Soniodd am waith ymchwil a datblygu BRAIN i ddefnyddio therapïau uwch i drin Clefyd Huntington, sy'n cael ei achosi gan fwtaniad genynnol unigol. Tynnodd sylw at heriau'r weithdrefn hon lle mae therapiwteg yn cael ei roi’n uniongyrchol yn yr ymennydd, fel cywirdeb wrth dargedu ardaloedd o’r ymennydd ac anawsterau gyda’r broses chwistrellu. Serch hynny, maen nhw'n mireinio eu technolegau a'u prosesau i helpu i oresgyn hyn 

Tynnodd Liam sylw hefyd at pam fod Cymru yn lle delfrydol ar gyfer arloesi ym maes therapïau uwch, gyda’r ymchwil a’r sefydliadau niwrowyddoniaeth gwych yn atyniad cryf.  

Sganio’r gorwel 

John Spoors, Pennaeth Dadansoddi Polisi Meddyginiaethau Masnachol y GIG yn Lloegr oedd nesaf, a archwiliodd therapïau uwch o safbwynt sganio’r gorwel. 

Siaradodd ar yr angen am ddulliau datblygedig o sganio’r gorwel gan gynnwys gwaith cwmpasu, ymchwil desg, ymgysylltu clinigol, dadansoddi thematig ac adrodd. Yn ogystal, pwysigrwydd ymchwil cynradd gyda mewnbwn arweinwyr clinigol i ddeall effaith Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch, yn arbennig o ran effeithiolrwydd cynhyrchion, y nifer o gleifion a llwybrau gofal. Cysyniad allweddol cyffredinol y clywyd amdano sawl gwaith yn ystod y dydd, serch hynny, oedd y dylai’r cyfan ddod yn ôl at y claf – waeth pa mor gyffrous yw’r dechnoleg, dylid gweld ei effaith drwy lens sut y mae o fudd i’r rhai sydd ei angen fwyaf – y cleifion. 

Comisiynu therapïau uwch yng Nghymru 

Tynnodd Andrew Champion, Dirprwy Gyfarwyddwr Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru  (WHSSC), sylw at rôl ei sefydliad, sy’n comisiynu gwasanaethau ar gyfer cyflyrau prin a chymhleth yng Nghymru. 

Rhoddodd bersbectif WHSSC o ran y llif cynyddol o Gynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch a sut mae’n effeithio ar gomisiynu. Pwysleisiodd bwysigrwydd sganio’r gorwel a soniodd am rôl WHSSC wrth fabwysiadu therapïau CAR-T i Gymru. Soniodd hefyd am y cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer rhaglen ganlyniadau newydd ar gyfer gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth i gefnogi’r broses o gasglu data canlyniadau Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch yn rheolaidd ar draws Cymru, gyda’r nod o gefnogi mabwysiadu'r therapïau hyn yn gynaliadwy. 

Gweithio ar y cyd wrth gyflenwi therapïau uwch 

Trafododd Owen Marks, Pennaeth Clefydau Prin ar gyfer Pfizer yn y DU, effaith tîm prosiect penodedig Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain ar gyfer Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth mewn Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch, modelau talu arloesol, codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth a chydweithio parhaus. 

Soniodd hefyd am yr angen i esblygu sut mae NICE yn asesu technolegau newydd i sicrhau ei fod yn mynd i’r afael â materion ynglŷn ag ansicrwydd Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch ac yn cofnodi’r gwerth y maent yn ei gyflawni. Gallai modelau ad-dalu newydd hefyd ganiatáu cytundebau mynediad masnachol cynaliadwy ar gyfer y GIG a diwydiant. 

Therapïau genynnau ail-ddosadwy  

Rhoddodd Rui Sousa, Is Lywydd Materion Meddygol Ewropeaidd Krystal Biotech, drosolwg o’u cynnyrch therapi genynnau, triniaeth ail-ddosadwy argroenol ar gyfer Bullosa Epidermolysis Camfaethol (DEB), anhwylder croen prin, dinistriol. Mae’r therapi hwn newydd gael cymeradwyaeth  y Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau i’w ddefnyddio yn yr Unol Daleithiau, ond nid yw wedi'i gymeradwyo gan unrhyw gorff rheoleiddio arall eto. 

Pwysleisiodd Rui natur amrywiol y therapïau sydd wrthi’n cael eu datblygu a dangosodd nad yw pob Cynnyrch Meddyginiaethol Therapïau Uwch yn siop un stop o ran gofynion gofal trydyddol. Creodd gyffro yn yr ystafell drwy bortreadu darlun o ddyfodol lle gallai Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch gael eu rhoi yng nghysur cartref y claf gan berson clinigol proffesiynol oherwydd ei fod yn argroenol. Mae hyn yn dangos pa mor ‘feunyddiol’ y gallai Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch fod un dydd. 

Defnyddio therapi genynnau i drin hemoffilia   

Nesaf oedd Sujan Sivasubramaniyam, Pennaeth Materion Meddygol ac Eiriolaeth Cleifion UK & Ireland​ CSL Behring. Soniodd ei sgwrs ar yr ystyriaethau wrth ddefnyddio therapi genynnau i drin  Hemoffilia B, sy’n cael ei arfarnu ar hyn o bryd gan NICE. Yma, gall un dos gynnig gweithgaredd parhaus i atal gwaedu a gwella ansawdd bywyd. 

Pwysleisiodd bwysigrwydd timau amlddisgyblaethol i gefnogi’r broses o reoli cleifion. Mae cymorth seicolegol yn elfen allweddol i glaf sy’n wynebu therapi genynnau, sy’n golygu bod angen mwy na chlinigwyr yn unig. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd casglu data hirdymor i ddeall effaith therapi genynnau a’i effeithlonrwydd dros gyfnodau hirach o amser.  

Llais y cyhoedd a Chynnyrch Meddyginiaethol Therapïau Uwch 

Trafododd Samantha Barber, Prif Weithredwr Gene People bwysigrwydd llais cleifion o ran therapi genynnau, gan bwysleisio pa mor hanfodol yw profiad bywyd cleifion a'u teuluoedd o fewn y broses o wneud penderfyniadau. Gallai Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch gael y potensial i drawsnewid bywydau pobl â chlefydau prin, gyda 95% ohonyn nhw ddim yn cael triniaeth ar hyn o bryd. 

Siaradodd am sut gall sefydliadau cleifion greu newid wrth i’r gwaith ymchwil a datblygu symud yn ei flaen gyda Chynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch. Soniwyd am grwpiau fel FOP Friends, Y Gymdeithas Sglerosis Twberus a Chymdeithas Deuluol Clefyd Batten fel enghreifftiau o hyn. 

Sesiwn i gloi 

Fe wnaeth Suzanne Rankin ddod â’r diwrnod o sgyrsiau i ben gydag adborth a sylwadau y rheini a oedd yn bresennol. Adlewyrchodd ehangder y sgyrsiau natur amlddisgyblaethol arloesedd therapïau uwch a thynnodd sylw at yr angen am gydweithio traws-sector parhaus. 

Themâu allweddol eraill a godwyd yn ystod y dydd oedd yr angen i gasglu data a defnyddio dull system gyfan. Mae llawer wedi’i gyflawni ond mae dal cymaint eto i ddod, a allai helpu i gyflawni canlyniadau trawsnewidiol ar gyfer pobl yng Nghymru. 

Ydych hi’n gweithio mewn arloesedd therapïau uwch ac angen cymorth i symud y  triniaethau trawsnewidiol hyn i reng flaen iechyd a gofal cymdeithasol? Cysylltwch â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i weld sut gallwn eich cefnogi drwy e-bostio hello@lshubwales.com.