Heddiw, cyhoeddodd Huntleigh Healthcare Ltd, Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA), Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Arloesi Clwyfau Cymru bartneriaeth i werthuso dyfais gwella clwyfau a gefnogir yn rhannol gan y rhaglen Cyflymu.

Huntleigh Heathcare Ltd, Cardiff University and Welsh Wound Innovation Centre announce Initiation of a randomised control trial to Clinically evaluate a Wound healing device: The IPCOTT study

Nod yr astudiaeth hon yw gwerthuso dyfais gwella clwyfau i bennu ei heffaith ar glwyfau cronig nad ydynt yn gwella, yn benodol wlserau gwythiennol ar y coesau.  Mae Huntleigh Healthcare wedi datblygu dyfais cywasgu niwmatig ysbeidiol (IPC) arloesol (WoundExpress ™) sy'n cywasgu clun y goes sy’n dioddef (cywasgu procsimol), ymhell o'r mannau hynny ar y goes lle mae’r wlserau, sef o dan y pen-glin.  Mae astudiaethau peilot llai wedi dangos defnyddioldeb y ddyfais ar y cyd â gofal safonol am glwyfau. 

Ni ellir tanbrisio effaith trefn well o drin clwyfau cronig nad ydynt yn gwella.  Mae amlder cynyddol clwyfau cronig yn cael ei gydnabod fel mater gofal iechyd sydd ar gynnydd yn fyd-eang gan fod nifer yr achosion o glwyfau nad ydynt yn gwella yn cynyddu wrth i’r boblogaeth heneiddio ac oherwydd y cynnydd yn nifer yr achosion o ddiabetes a gordewdra. 

Amcangyfrifir mai’r gost y flwyddyn i drin clwyfau cronig yn y Deyrnas Unedig yw £2-3 biliwn (sef 3-5% o wariant y GIG).  Amcangyfrifir bod y GIG yn rheoli 278,000 o wlserau gwythiennol ar y coesau (VLU) bob blwyddyn, ac nid yw 47% (130,660) o’r rheiny’n gwella o fewn 12 mis. Mae'r clwyfau hyn yn boenus ac yn anghyfforddus i'r claf ac yn ddrud i awdurdodau iechyd gan fod ymweliadau nyrsys cymunedol yn cymryd llawer o amser ac yn cyfrannu tuag at ran helaeth o'r gost.

Er mwyn pennu effaith y driniaeth hon ar wlserau gwythiennol cronig ar y coesau, mae Treial Rheoli ar Hap ar raddfa fawr bellach wedi dechrau recriwtio cleifion, a bydd yn ystyried a yw'r dull newydd yn darparu budd ychwanegol pan gaiff ei ddefnyddio gyda thriniaethau safonol presennol.  Bydd yn gweithredu ar draws 4 gwlad gyda hyd at 10 safle ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop er mwyn asesu’r dystiolaeth glinigol i gefnogi dyfais WoundExpress ™.

Mae’n brosiect sydd â gwreiddiau cryf yng Nghymru.  Lleolir tîm Huntleigh, sy'n gwneud y ddyfais ac sy’n berchen ar yr eiddo deallusol sy'n gysylltiedig â WoundExpress™, yng Nghaerdydd ac mae’r tîm clinigol o Ganolfan Arloesi Clwyfau Cymru yn gweithio o Lantrisant. Mae'r partneriaid academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac erbyn hyn mae gennym ganolfannau sy'n recriwtio cleifion i’r astudiaeth glinigol o sawl gwlad ledled Ewrop.

Meddai Dr Jane Davies, Rheolwr Cymorth Clinigol yn Huntleigh Healthcare Ltd:

“Fel cwmni, rydym ni’n gwerthfawrogi’n fawr iawn y cyfle i gydweithio â’n cydweithwyr uchel eu parch yn Cyflymu, Prifysgol Caerdydd a WWIC. Mae’r cyfuniad o’u harbenigedd a'u cymorth yn amhrisiadwy wrth inni weithio gyda'n gilydd ar y prosiect ymchwil pwysig hwn gyda'r nod o wella bywydau'r rheiny sy'n dioddef o wlserau ar ran isaf y coesau."

Dywedodd Yr Athro Keith Harding, Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd:

"Mae datblygu dull newydd o helpu i wella llawer o glwyfau ar y coesau yn bosibilrwydd cyffrous i alluogi cleifion i wella eu clwyfau'n gyflymach a chyda llawer llai o boen ac anghysur.

Mae hon yn enghraifft o sut gall y rhaglen Cyflymu ymgymryd â gwaith heriol a allai weddnewid agwedd bwysig ar ofal clinigol."

Darllenwch am brosiectau eraill ar dudalen gwefan y Cyflymydd Arloesedd Clinigol.