Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Sefydliad Technoleg Massachusetts a’r Rhaglen Cyswllt Diwydiannol, mae’n bleser gennym gefnogi digwyddiad mewn cyfres sy’n dathlu menywod sy’n gweithio ym mhob agwedd o wyddorau bywyd yng Nghymru.
Bydd ein Prif Weithredwr, Cari-Anne Quinn, yn cadeirio’r digwyddiad ‘Dathlu Menywod mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg’ a gynhelir ar-lein ddydd Iau 31 Mawrth am 2pm. Yn ogystal â hyn, bydd sgwrs am ddim yn cael ei chyflwyno gan Dr Ellen Roche, Athro Cyswllt, MechE a’r Sefydliad Peirianneg a Gwyddoniaeth Feddygol yn MIT.
Bydd cyflwyniad Dr Ellen Roche yn canolbwyntio ar faes cyffrous biobeirianneg, sydd â photensial mawr i wella iechyd a lles drwy arloesi parhaus. Bydd y sgwrs hon yn edrych sut gall dyfeisiau mewnblannu gefnogi neu wella organau a geir yn y corff drwy atgyweiriadau strwythur, cymorth gweithredol a darpariaeth therapïau biolegol.
Mae’r effaith y gallai arloesi o’r fath ei chael ar wella canlyniadau iechyd a lles ac arbedion effeithlonrwydd yn cyd-fynd â’r hyn rydym yn ceisio ei wneud fel sefydliad, fel yn ein maes blaenoriaeth meddygaeth fanwl. Dyma lle gall therapïau wedi’u targedu gynnig model triniaeth mwy cywir a gwell canlyniadau i gleifion.
Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rwy’n edrych ymlaen at ddathlu’r menywod mewn gwyddoniaeth sydd ar flaen y gad o ran arloesi ym maes gwyddorau bywyd, gan helpu i greu dyfodol gwell ar gyfer systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o fod yn arddangos un enghraifft o hyn drwy’r digwyddiad Menywod mewn Gwyddoniaeth ac i ddysgu mwy am waith dylanwadol Dr Roche.”
Mae’r sgwrs hon yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru a MIT, lle mae arweinwyr dylanwadol sy’n fenywod ac yn gweithio yng nghyfadran MIT yn cynnal sgyrsiau ar-lein ar amrywiaeth o bynciau STEM dylanwadol. Mae hyn wedi bod yn bosibl oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn aelod o’r Rhaglen Cyswllt Diwydiannol, sy’n darparu mynediad i fusnesau Cymru at MIT drwy adnoddau ar-lein, mynediad arbennig i gynadleddau a seminarau a chyfarfodydd pwrpasol.
Bydd y sesiwn dan gadeiryddiaeth Cari-Anne Quinn yn para 60 munud ac yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb ryngweithiol gyda Dr Ellen Roche.
Os hoffech chi ddod i'r digwyddiad, ewch i wefan Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle yn rhad ac am ddim.