Trydydd parti

Mae cystadlu yng Ngwobrau GIG Cymru eleni yn gyfle gwych i ddathlu eich gwaith gwella ansawdd sydd wedi trawsnewid gwasanaethau i bobl yng Nghymru. Beth bynnag fo’r newid, boed yn fawr neu’n fach, mae’r gwobrau’n ffordd wych o gydnabod eich gwaith anhygoel dros iechyd a gofal.
 

NHS Wales Awards

Gall unrhyw un sy'n gweithio i GIG Cymru gystadlu yn y Gwobrau gan gynnwys myfyrwyr. Bydd gan yr enillwyr lwyfan i rannu eu gwaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae’r categorïau ar gyfer 2024 wedi’u hailwampio i gyd-fynd â’r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023. Mae 12 gwobr newydd sbon, sef:

  • Gwobr Gofal Diogel GIG Cymru
  • Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru
  • Gwobr Gofal Effeithiol GIG Cymru
  • Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru
  • Gwobr Gofal Teg GIG Cymru
  • Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn GIG Cymru

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis o restr fer y beirniaid a bydd cymheiriaid yn GIG Cymru yn pleidleisio drosto.  

  • Gwobr Arweinyddiaeth GIG Cymru
  • Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru
  • Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru
  • Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru
  • Gwobr Dysgu ac Ymchwil GIG Cymru
  • Gwobr Dull Systemau Cyfan GIG Cymru
  • Gwobr y Gweinidog am Ragoriaeth mewn Gwelliant ac Ansawdd

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis o blith enillwyr y 12 categori.

Cyn cystadlu, darllenwch y Canllaw ar wneud Cais ar gyfer Gwobrau GIG Cymru 2024.

Mae ceisiadau ar agor tan 5:00pm, dydd Gwener 3 Mai 2024. Pob lwc!