Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’r Academi Gwyddorau Meddygol wedi lansio eu Cronfa Sbarduno ar Ofal Canser. Mae hyd at £10,000 o gyllid sbarduno, ochr yn ochr â chymorth pwrpasol, nawr ar gael i sefydliadau yn y DU sy'n gweithio ar brosiectau arloesi cydweithredol ym maes canser. 

A woman in a lab looking through a microscope

Mae gwella canlyniadau canser yn flaenoriaeth frys yn y DU. Gall triniaeth well, diagnosis cynharach, a phrofiad gwell i gleifion leihau'r pwysau ar y GIG a helpu pobl i fyw bywydau iachach, hapusach. Bellach yn ei hail flwyddyn, mae'r fenter yn cynnig cyllid a chymorth i brosiectau sy'n mynd i'r afael â'r heriau hyn drwy gydweithio ar draws sectorau. 

Canolbwyntiodd yr arian sbarduno y llynedd ar ddatblygu atebion arloesol i wella canlyniadau a phrofiadau ar gyfer menywod sydd wedi’u heffeithio gan ganser. Roedd ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnwys CanSense a Phrifysgol Abertawe

Dywedodd yr Athro Dean Harris, Cyfarwyddwr Clinigol CanSense: 

"Diolch i gyllid y Gronfa Sbarduno ar Ganser Menywod, rydyn ni wedi lansio prosiect uchelgeisiol i gynnwys y cyhoedd a chleifion (PPI) sy'n canolbwyntio ar ddatblygu prawf gwaed newydd (biopsi hylifol) er mwyn canfod canser yr ofarïau a chanser endometriaidd yn gynnar. 

"Rydyn ni’n ddiolchgar i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’r Academi Gwyddorau Meddygol  am ein helpu i gymryd camau ystyrlon tuag at drawsnewid sut mae canser yr ofarïau a chanser endometriaidd yn cael eu diagnosio yn y DU. Rydyn ni wir yn annog arloeswyr, timau ymchwil a chlinigwyr eraill i ystyried gwneud cais!" 

Dywedodd yr Athro Deya Gonzalez, Athro Meddygaeth Folecwlaidd a Throsi ym Mhrifysgol Abertawe: 

“Drwy gyfuno gwybodaeth gan gleifion, ymchwil drylwyr, a chynllunio systemau iechyd, rydyn ni’n defnyddio'r cyllid sbarduno o’r Gronfa Sbarduno ar Ganser Menywod i greu map trywydd ar gyfer monitro iechyd esgyrn yn y cartref sy’n hygyrch, yn gynhwysol ac yn gynaliadwy." 

Mae ceisiadau’n agor ar 10 Medi 2025 ac yn cau am 12:00pm ar 28 Tachwedd 2025. 

Mae'r cyllid sbarduno ar agor i sefydliadau sydd wedi cofrestru yn y DU, gan gynnwys timau neu adrannau prosiect. Rhaid i brosiectau ddangos eu bod yn cydweithio’n amlddisgyblaethol ar draws sectorau, a chynnwys o leiaf un partner sydd wedi'i leoli yng Nghymru.  

Yn ogystal â chymorth ariannol, bydd y rhai sy’n derbyn cyllid yn cael cymorth wedi’i deilwra gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’r Academi Gwyddorau Meddygol. Gallai hyn gynnwys canllawiau ar ddatblygu partneriaethau, mynediad at gyfleoedd ariannu pellach, gwybodaeth am y sector a chymorth pwrpasol i brosiectau. 

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:  

“Bydd y Gronfa Sbarduno ar Ofal Canser yn helpu i roi atebion sy'n newid bywydau i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser yng Nghymru a thu hwnt.  

“Mae'r fenter hon yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddiagnosis cynnar, triniaeth well, a chanlyniadau gwell i gleifion. Rydyn ni’n croesawu'r dull hwn o gydweithio i chwilio am ddatblygiadau yn y gwyddorau meddygol. 

“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut gall helpu i ysgogi arloesedd.” 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:  

“Rydyn ni’n deall pwysigrwydd gwella diagnosis, triniaethau, profiadau, ac yn y pen draw bywydau pobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o fod yn cyflwyno'r Gronfa Sbarduno am yr ail dro gyda'r Academi Gwyddorau Meddygol i helpu i gyflawni'r nod uchelgeisiol hwn drwy brosiectau trawsnewidiol gyda chydweithio yn ganolog iddyn nhw. Edrychwn ymlaen at dderbyn pob cais a chynnig cyllid hollbwysig a chymorth arloesi i'r ymgeiswyr llwyddiannus.” 

Dywedodd yr Athro James Naismith FRS FRSE FMedSci, Is Lywydd (anghlinigol) yn yr Academi Gwyddorau Meddygol: 

“Mae cydweithio ar draws sectorau yn hanfodol os ydym am ddod o hyd i atebion newydd ym maes gofal canser. Mae mynd i'r afael â heriau iechyd cymhleth a brys yn gofyn am bartneriaethau sy'n pontio diwydiant, y byd academaidd a'r sectorau gofal iechyd, gan ddod â disgyblaethau ac arbenigedd amrywiol at ei gilydd. Drwy gydweithio'n agos â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’n cysylltu ymchwilwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac arloeswyr, gan ddarparu'r cyllid sbarduno a'r mentora sydd eu hangen i wireddu syniadau trawsnewidiol. Mae’r Gronfa Sbarduno wedi'i chynllunio i wneud hynny, ac rydyn ni’n falch o hyrwyddo prosiectau sy'n darparu buddion go iawn i gleifion, y GIG a  chymdeithas yn ehangach.” 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, edrychwch ar ein Dogfen Ganllaw neu wybodaeth fanwl am gymhwysedd, cwmpas, a'r cymorth sydd ar gael. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu'n Saesneg a dylid eu hanfon at hello@lshubwales.com cyn y dyddiad cau.  

Dysgwch fwy am y gronfa.