Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Dymuna Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru longyfarch Vaughan Gething ar gael ei benodi’n Brif Weinidog newydd Cymru. Mae ei benodiad yn foment arwyddocaol i Gymru, yn enwedig o ran iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd.

Vaughan Gething

Fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i hybu arloesedd ym maes gofal iechyd a meithrin cydweithio yn sector gwyddorau bywyd Cymru, rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r Prif Weinidog, Vaughan Gething, i barhau i ddatblygu ein safle cenedlaethol fel arweinydd byd-eang ym maes gwyddorau bywyd.

Gyda chefndir ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, mae Vaughan Gething yn dod â chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth i’r swydd, sy’n ei alluogi i hyrwyddo mentrau sy’n hybu twf a datblygiad y diwydiant gwyddorau bywyd yng Nghymru. Yn benodol, mae ei swydd ddiweddar fel Gweinidog yr Economi yn pwysleisio rhagor ar ei allu i sbarduno twf a datblygiad economaidd ochr yn ochr â hyrwyddo amcanion gofal iechyd.

Dywedodd ein Cadeirydd, Chris Martin: 

"Rydym ni’n llongyfarch Vaughan Gething ar gael ei benodi’n Brif Weinidog newydd Cymru ac rydym ni’n edrych ymlaen at gydweithio gydag ef i fanteisio ar botensial y sector gwyddorau bywyd i sbarduno twf economaidd a gwella iechyd a llesiant ledled Cymru.”

Dywedodd ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn: 

O dan arweiniad Vaughan Gething, rydym yn rhagweld cyfleoedd pellach i gryfhau partneriaethau rhwng diwydiant, y byd academaidd, a'r system iechyd a gofal cymdeithasol, gan feithrin arloesedd a sbarduno newid cadarnhaol. Rydym ni’n mynegi ein dymuniadau gorau i’r Prif Weinidog, Vaughan Gething, wrth iddo ymgymryd â’r swydd bwysig hon a bod yn barod i gefnogi ei ymdrechion i hyrwyddo ffyniant ac iechyd pobl Cymru.”

Dymunwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i’r Cyn Brif Weinidog, Mark Drakeford, am ei wasanaeth ymroddedig i Gymru, a dymuno’r gorau iddo yn y dyfodol.