Mae'r rhaglen Cyflymu yn cefnogi adnewyddu eglwys Glanrhyd yn ofod i'r cymunedau lleol ei ddefnyddio.
Mae Eglwys Glanrhyd yn eglwys hardd wedi'i lleoli ar dir Ysbyty Glanrhyd, cyfleuster iechyd meddwl ym Mhen-Y-Fai, Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r eglwys yn fan ysgafn ac agored a allai fod yn berffaith i'r gymuned leol ei ddefnyddio.
Yn unol â Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), bydd yr adnewyddiad yn anelu at wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y gymuned leol.
I'r perwyl hwn, mae'r pensaer sy'n ymwneud â'r prosiect hwn, Professor Phil Jones, yn arbenigwr mewn dylunio adeiladau carbon isel, er mwyn sicrhau bod y trawsnewidiad yn gynaliadwy ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd.
Nid yn unig y bydd y prosiect adnewyddu hwn yn adfer adeilad hanesyddol, bydd hefyd yn creu rhywbeth sy'n ddefnyddiol i bobl leol, yn ogystal â staff a chleifion ar y safle.
Mae'r prosiect hwn hefyd yn wir gydweithrediad, gan gynnwys Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol CTM, BAVO (Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr), Mental Health Maters, Zenergy Design a phensaer lleol o Ysgol Pensaernïaeth Caerdydd yn ogystal â'r rhaglen Cyflymu
Cynnwys y gymuned
Y gobaith yw y bydd trawsnewid yr eglwys yn rhoi hwb i weithgaredd cymdeithasol a lles yn yr ardal, wrth warchod treftadaeth hardd yr adeilad.
Hwylusodd Swyddog Ymgysylltu Lleol Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella (RIIC), Lizzie, dri gweithdy ar Zoom gyda 24 aelod o'r gymuned, staff y bwrdd iechyd yn gweithio yn Ysbyty Glanrhyd a chynrychiolwyr o sefydliadau lleol. Yn y gweithdai hyn, cyflwynodd Lizzie rai syniadau, ac yna gofynnodd i'r rhai a oedd yn bresennol am adborth a rhannu unrhyw feddyliau ychwanegol sydd ganddyn nhw.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae'r tîm wedi edrych ar yr holl adborth o'u gweithdai ac wedi gweithio gyda'r pensaer i adolygu'r adeilad i weld beth sy'n bosibl.
Byddant yn gweithio gyda'u partneriaid i ddatblygu'r syniadau ymhellach a byddant yn rhannu'r rhain yn fuan.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect hwn, ewch i'r wefan neu Twitter am fwy.