Ydych chi’n mynd i ConfedExpo y GIG? Mae ein tîm yn mynd i Fanceinion ar gyfer y digwyddiad deuddydd hwn, a byddant yn cynnal sesiwn panel llawn gwybodaeth sy’n edrych ar hanes Rhaglen Genedlaethol Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg.
Mae ConfedExpo y GIG yn sicr yn uchafbwynt blynyddol i sefydliadau sy’n ymwneud â gofal iechyd. Bydd dros 5,000 o bobl yn bresennol sydd â diddordeb mewn sbarduno trawsnewid a newid yn y sector.
Eleni, cynhelir y digwyddiad ym Manceinion ar 14 a 15 Mehefin. Mae’r agenda’n cynnwys siaradwyr dylanwadol, parthau nodwedd, trafodaethau panel, a sesiynau rhwydweithio i roi’r wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen ar y rhai sy’n bresennol i oresgyn heriau allweddol sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd gennym ni bod ym Mharth Nodwedd Arloesi Academi’r Rhwydweithiau Gwyddorau Iechyd. Byddwn ni wrth law i drafod sut gallwn ni gefnogi eich sefydliad i fynd ag arloesedd i’r rheng flaen, p’un ai ydych chi o ddiwydiant, o’r maes iechyd a gofal cymdeithasol, neu o sefydliad academaidd.
Bydd Cari-Anne Quinn, ein Prif Swyddog Gweithredol, hefyd yn cynnal trafodaeth panel ddydd Iau 15 Mehefin am 11:40 yn y Parth Arloesi mewn partneriaeth â SBRI. Bydd hyn yn canolbwyntio ar Rhaglen Genedlaethol Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg, gan dynnu sylw at sut gall trawsnewid a chydweithio cydgysylltiedig gyflymu’r broses o fabwysiadu arloesedd, gwella canlyniadau i gleifion a gwella effeithlonrwydd i staff.
Dyma rai o’r siaradwyr a fydd yn rhannu eu safbwyntiau unigryw ar y prosiect arloesol hwn:
-
Jon Morgan – Rheolwr Rhaglen, Rhaglen Genedlaethol Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg
-
Ana Raduc – Rheolwr Cyffredinol y DU ac Iwerddon, CMR Surgical
-
Ken Lim – Llawfeddyg Ymgynghorol Canser Gynaecolegol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn:
“Mae ConfedExpo y GIG yn gyfle gwych i gysylltu â phartneriaid hen a newydd ac i archwilio sut gallwn ni ychwanegu gwerth at waith ein gilydd. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn bresennol yn y gynhadledd, yn ogystal â chynnal trafodaeth panel yn tynnu sylw at sut mae system ystwyth a chysylltiedig Cymru wedi hwyluso rhaglen llawdriniaeth arloesol ar gyfer canser. Byddwn yn croesawu’r cyfle i siarad ag unrhyw un sy’n bresennol ac sydd â diddordeb mewn sut gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru eich cefnogi chi i arloesi ar y rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.”
Os ydych chi’n dod i ConfedExpo y GIG ac os hoffech chi drefnu cyfarfod gyda’n Prif Swyddog Gweithredol i drafod sut gallwn ni eich cefnogi chi, anfonwch e-bost i hello@lshubwales.com