Mae datblygiadau cyffrous ym maes gwyddor data yn golygu y gallwn gasglu a dadansoddi mwy a mwy o wybodaeth. Sut gallai hyn helpu i drin clefydau a beth yw goblygiadau moesegol hyn? Mae pennod ddiweddaraf ein podlediad Syniadau Iach yn trafod y pwnc...

smartphone with business graph and analytics data on isometric laptop

Rydyn ni’n cael clywed gan Richard Walker, cyn Bennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Prif Swyddog Gwybodaeth Ddigidol, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Coedwig Sherwood erbyn hyn), am y cyfleoedd, yr heriau a’r materion moesegol sy’n gysylltiedig â data cleifion sydd gan Fyrddau Iechyd yng Nghymru. 

Mae Richard yn siarad â’n Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Rhodri Griffiths, ynghylch sut gall data o’r fath arwain at ddiagnosis, triniaeth ac atal clefydau, yn ogystal â meithrin arferion iach mewn cleifion. Mae’r wybodaeth hon hefyd yn cynnwys yr allwedd i greu triniaethau a ffyrdd o weithio sydd wedi’u personoli i anghenion pob claf, gan arwain at ofal iechyd mwy cywir ac effeithiol. 

Wrth sôn am hyn, dywed Richard: “Os da chi isho gwybod faint o bobl rhwng 50 - 70 oed sydd wedi torri clun yn ardal Corris fedran ni ateb hynna. 

“Maent hefyd yn anfon y wybodaeth i'r llywodraeth yn ddienw fel y gellir gwneud penderfyniadau polisi am ofal iechyd.  

“Os da ni isho trefnu gwasanaeth newydd, da ni’n gwbod faint o bobl da ni eisiau i ateb y galw am y gwasanaeth yna.”  

Mae’r podlediad yn edrych ar faterion moesegol allweddol sy’n ymwneud â chasglu, storio a dadansoddi data cleifion. Mae Richard a Rhodri hefyd yn trafod y ceisiadau go iawn lle mae wedi helpu i wella ein gofal iechyd, fel yn yr ymateb i bandemig Covid-19. 

Gallwch wrando ar Richard a Rhodri yn trafod y pwnc diddorol hwn, yn ogystal â’n penodau eraill, ar amrywiaeth o safleoedd lletya podlediadau gan gynnwys Apple Podcasts, Spotify a Google Podcasts. 

Neu, gallwch wrando drwy Spreaker isod: