A fyddai’r holl wybodaeth sy’n cael ei gasglu amdanom yn gallu chwyldroi’r ffordd yr ydym yn darparu gofal iechyd i gleifion yng Nghymru? Mae ein pennod ddiweddaraf o Syniadau Iach yn archwilio effaith bellgyrhaeddol deallusrwydd artiffisial. 

Cloud computing

O gael archwiliad llygaid gan yr optegwyr i gael presgripsiwn, mae eich data gofal iechyd yn cael ei gasglu mewn niferoedd mawr yn rheolaidd. Mae deallusrwydd artiffisial yn dod â’r wybodaeth hon at ei gilydd ac yn helpu i wneud synnwyr ohoni er budd ymarferwyr ac ymchwilwyr gofal iechyd. 

Mae Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn siarad â Rhodri Griffiths, ein Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, am y cyfleoedd cyffrous a’r heriau posibl sy’n gysylltiedig â defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn meysydd fel diagnosis a chanfod. 

Wrth sôn am ei botensial, dywed Ifan: “Mae’n gyfnod cyffrous achos rwy’n credu ein bod ni mynd i weld mwy a mwy o hyn yn cael ei gyflwyno i mewn i’r system iechyd a bydd rhai pethau’n cael eu datblygu yn arloesol yng Nghymru a mwy o bethau’n cael eu darparu trwy’r holl dechnoleg a phartneriaid digidol a diagnostig yma.” 

Mae Ifan yn tynnu sylw at y gwaith arloesol a wnaed ym manc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) Prifysgol Abertawe, lle cesglir llawer iawn o ddata o gofnodion gofal iechyd, yn gysylltiedig â data gweinyddol ac yn ddienw. Mae hyn wedyn yn caniatáu i bobl edrych ar batrymau iechyd y boblogaeth. 

Gallwch wrando ar Ifan a Rhodri yn trafod y pwnc diddorol hwn, yn ogystal â’n penodau eraill, ar amrywiaeth o safleoedd lletya podlediadau gan gynnwys Apple Podcasts, Spotify a Google Podcasts. 

Neu, gallwch wrando drwy Spreaker isod: