Mae ein pennod ddiweddaraf o Syniadau Iach yn edrych ar y chwyldro technoleg a digidol a fydd yn rhan hollbwysig o’r GIG yn y dyfodol.
Cafodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru ei greu yn 2021 ac mae’n awdurdod iechyd arbennig sy’n ceisio cefnogi a gwella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu drwy drawsnewid digidol.
Mae ein Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Rhodri Griffiths, yn cael cwmni Ifan Evans Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i drafod rhagor am ddyfodol digidol yn ein GIG.
Yn y podlediad, roedd Ifan yn trafod rôl Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gan ddweud: “Dyw’r corff newydd ddim yn darparu yr holl wasanaethau digidol i’r GIG a gofal cymdeithasol; mae’r byrddau iechyd yn darparu peth hefyd. Ond mae angen rhywun i gydlynu’r system, rhywun sy’n helpu i lywio y system yn ei gyfanrwydd,”
Soniodd Huw am yr offer meddygol sy’n cysylltu â’r rhyngrwyd fel enghraifft o sut mae trawsnewid digidol yn gwneud gwahaniaeth. Soniodd am y gyrwyr chwistrelli sy’n rhoi cyffuriau pwerus i’r corff, gan ddweud:
“Mae cysylltu hyn i’r we wedi rhoi y tools inni i gadw pobl yn fwy diogel trwy rheoleiddio y ffordd mae rhain yn gweithio.”
Ychwanega ei bod yn rhaid cadw pethau’n syml: “Os wnewn ni ein systemau yn gymhleth dyw pobl ddim yn mynd i’w defnyddio nhw yn y dyfodol.”
Gallwch wrando ar Huw, Ifan a Rhodri yn trafod y pwnc pwysig hwn, yn ogystal â’n penodau eraill, ar amrywiaeth o safleoedd lletya podlediadau gan gynnwys Apple Podcasts, Spotify a Google Podcasts.
Neu, gallwch wrando drwy Spreaker isod: