Mae ein pennod ddiweddaraf o Syniadau Iach yn trafod effaith technoleg gynorthwyol a’r hyn gall Cymru ei wneud i fod ar flaen y gad o ran datblygu a chyflwyno systemau dwyieithog.

Smartwatch for health care

Mae pobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol fel cadeiriau olwyn a darllenwyr sgrin yn gallu byw bywydau sy’n fwy annibynnol, iach a diogel yn eu cartrefi eu hunain. Mae datblygiadau cyffrous ym maes technoleg yn golygu bod y dyfeisiau hyn yn dod yn fwy soffistigedig, gyda dyfeisiau tabled, robotiaid, systemau cysylltiedig a thechnoleg mae modd ei gwisgo yn helpu i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol. 

Yn y podlediad hwn, rydyn ni’n clywed gan Gareth Rees, Arweinydd Rhaglen Arloesi Strategol Llesiant Delta, a Huw Marshall o Annwen Cymru yn trafod heriau sicrhau bod y technolegau hyn ar gael yn Gymraeg. 

Mae swydd Gareth yn golygu ei fod yn arwain prosiectau sy’n sicrhau bod technoleg gynorthwyol ar gael i bobl yng Ngorllewin Cymru. Yn ôl Gareth, mae llawer o bobl yn hoffi cyfathrebu â staff yn eu hiaith gyntaf, Cymraeg. 

Wrth sôn am hyn, dywed Gareth: “Ma lot o dystiolaeth fod pobl yn fwy cyffyrddus yn trafod pethau meddygol gyda’i meddyg yn eu hiaith gyntaf. A phan ma pobl wedi drysu mae nhw’n mynd yn ôl i’w iaith gynta,” 

Mae gwaith Huw yn Annwen Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau cysylltiedig a llwyfan creu cynnwys sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Mae’n siarad am y potensial i arloeswyr yng Nghymru ddatblygu ac arbenigo mewn meddalwedd a thechnoleg ddwyieithog:

“Mae tua 20% o’r byd yn siarad ieithoedd lleiafrifol. Ydy, mae o’n niche, ond mae o’n niche enfawr i ni fedru gwasanaethu.” 

Gallwch wrando ar Gareth a Huw yn trafod y pwnc diddorol hwn â’n Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Rhodri Griffiths, yn ogystal â’n penodau eraill, ar amrywiaeth o safleoedd lletya podlediadau gan gynnwys Apple Podcasts, Spotify a Google Podcasts. 

Neu, gallwch wrando drwy Spreaker isod: