StatsCymru
Mae StatsCymru yn wasanaeth rhad ac am ddim i’w ddefnyddio sy’n galluogi defnyddwyr i weld, trin, creu a lawrlwytho tablau o ddata Cymru, gan gynnwys data iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae StatsCymru yn wasanaeth rhad ac am ddim i’w ddefnyddio sy’n galluogi defnyddwyr i weld, trin, creu a lawrlwytho tablau o ddata Cymru, gan gynnwys data iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae SBRI yn ariannu gwaith ymchwil a datblygu i fynd i’r afael ag anghenion sydd heb eu diwallu ym maes gofal iechyd drwy gynnal heriau penodol a chystadlaethau agored. Ariennir SBRI gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae SBRI yn dod â heriau’r llywodraeth a syniadau byd busnes at ei gilydd i greu datrysiadau arloesol.
Mae SABRE Cymru yn rhwydwaith rhyngddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar ymchwil sy'n gysylltiedig ag achosion o glefydau heintus.
Cefnogir Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (RHCW) gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn datblygu a choladu ymchwil sy'n gysylltiedig ag iechyd gwledig, ac i wella hyfforddiant a recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gymunedau gwledig.
Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn hysbysu, hwyluso a chreu cysylltiadau ar gyfer ymchwilwyr sy’n gweithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector er mwyn gwella iechyd a lles y boblogaeth yng Nghymru.
Canolfan ymchwil sy'n canolbwyntio ar ofal sylfaenol a gofal brys, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn datblygu a chydlynu cynigion ymchwil a chefnogi ymchwilwyr.
Mae’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd yn rhaglen waith ar gyfer Cymru gyfan sy’n dod â byrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG at ei gilydd i hyrwyddo a hwyluso partneriaethau iechyd rhyngwladol.
Mae AaGIC (sy’n rhan o GIG Cymru) yn gyfrifol am addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys drwy gynnal cynlluniau ariannu ac ymgysylltu ag asiantaethau cyllido ar lefel y DU.
Mae Partneriaeth Genomeg Cymru yn cefnogi’r gwaith o ddarparu meddygaeth fanwl yn GIG Cymru drwy dechnolegau genetig a genomig.