Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant - Academi Dysgu Dwys, Prifysgol Bangor

Mae Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant Prifysgol Bangor yn Academi Dysgu Dwys (ILA), sydd wedi cael ei datblygu ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r Academi’n canolbwyntio ar gyflymu’r gwaith o hyrwyddo a mabwysiadu iechyd ataliol mewn ymarfer ar draws ecosystem gofal iechyd integredig (fel iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector, tai, addysg a diwydiannau gwyddorau bywyd) ac mewn cyd-destun dwyieithog.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’n sbarduno’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu arloesedd gwyddorau bywyd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni’n rhyngwyneb deinamig, sy’n cysylltu arloeswyr gwyddorau bywyd â phartneriaid ymchwil, cyfleoedd cyllido a defnyddwyr - timau iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen - i gefnogi llesiant ac, yn y pen draw, creu twf, swyddi a ffyniant ledled Cymru. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnig cefnogaeth helaeth ar unrhyw gam ar y daith ddatblygu, hyd at y cam y bydd y defnyddiwr yn ei fabwysiadu.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Science and Engineering Applications

Mae Science and Engineering Applications (SCIENAP) yn datblygu technoleg ddigidol mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys gofal iechyd. Mae SCIENAP wedi datblygu CHAI, platfform i weithwyr gofal iechyd gasglu a phrosesu data cleifion, y gellir ei ddefnyddio i greu cynlluniau gofal a nodiadau trosglwyddo clinigol. Mae’r cwmni hefyd wedi datblygu Care and Respond, pasbort iechyd digidol ar gyfer cleifion sydd â chyflyrau prin neu gymhleth.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Medical Toolkit

Mae Medical Toolkit yn datblygu offer deallusrwydd artiffisial ar gyfer gofal iechyd, gan gynnwys offeryn prosesu iaith naturiol i ddadansoddi nodiadau meddygol a rhwydwaith niwral i ddadansoddi delweddau meddygol.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

PataPata

Mae PataPata yn darparu cynhyrchion gofal croen i fabanod, yn seiliedig ar waith ymchwil gan Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

TB Biomedical

Mae TB Biomedical yn ymgynghoriaeth sy’n arbenigo mewn cynghori egin fusnesau labordai meddygol a diagnostig, gan gynnwys rhoi arweiniad ar sut i sefydlu labordy, llywodraethiant a chydymffurfiaeth.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Medical Systems

Mae Medical Systems yn gwmni meddalwedd sy’n darparu datrysiadau meddalwedd wedi’u teilwra ym maes gweinyddiaeth llawfeddygol, fel olrhain canlyniadau cleifion, digideiddio llif gwaith ac adrodd ar gydymffurfiaeth.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Sports Hall Medical Supplies

Mae Sports Hall Medical Supplies yn cyflenwi offer meddygol i sefydliadau chwaraeon, gan gynnwys cymorth cyntaf, rhwymynnau a chwistrellau lleddfu poen yn y cyhyrau.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Solar Medical and Chemical

Mae Solar Medical and Chemical yn cyflenwi offer meddygol, gan gynnwys cyflenwadau hylendid, cyfarpar diogelu personol a dodrefn.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Pharmatec Solutions

Mae Pharmatec Solutions yn gwmni ymgynghorol sy’n gweithio gyda sefydliadau gweithgynhyrchu a datblygu contractau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynnyrch anadlol newydd, fel anadlyddion dosau mesuredig dan bwysau.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd: