Direct Healthcare Group
Mae Direct Healthcare Group yn wneuthurwr dyfeisiau meddygol sy’n canolbwyntio ar atal wlserau pwyso, gwella clwyfau a datrysiadau trin cleifion yn ddiogel.
Mae Direct Healthcare Group yn wneuthurwr dyfeisiau meddygol sy’n canolbwyntio ar atal wlserau pwyso, gwella clwyfau a datrysiadau trin cleifion yn ddiogel.
Mae Recliners yn gwmni sydd wedi’i leoli ym Mhentre, Morgannwg Ganol, sy’n dylunio, datblygu, gweithgynhyrchu a chyflenwi dodrefn trydanol a dodrefn i chi symud eich hun, gan gynnwys cynhyrchion eistedd.
Mae Logic Software yn gwmni datblygu meddalwedd pwrpasol yn Nhonysguboriau, Pont-y-clun. Mae Logic Software wedi gweithio gyda’r GIG i greu datrysiadau fel cronfeydd data cleifion a systemau hysbysu apwyntiadau.
Mae V-TRAK yn gwmni offer meddygol a nwyddau traul sy’n gweithgynhyrchu ac yn gwerthu cadeiriau olwyn a seddi.
Mae Steddy Disability Aids yn fanwerthwr sy’n darparu amrywiaeth eang o gymhorthion anabledd a chynnyrch gofal i gwsmeriaid ledled de Cymru. Mae ganddyn nhw safleoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd ac maen nhw’n cyflenwi cadeiriau olwyn, ategolion cadeiriau olwyn, teclynnau trefnu tabledi, offer therapi ymarfer corff a dillad orthopedig rhad.
Mae Roma Medical Aids yn wneuthurwr cynnyrch symudedd ac adsefydlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae cynnyrch Roma Medical yn cynnwys cadeiriau olwyn, cymhorthion cerdded, cadeiriau trosglwyddo cleifion, a chymhorthion pediatrig.
Mae Reval yn wneuthurwr cynhyrchion hylendid, adsefydlu a lles ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae cynnyrch Reval yn cynnwys systemau ymolchi a chawodydd gyda chymorth, pyllau adsefydlu mewn dŵr, ac offer trosglwyddo ar gyfer ysbytai, cartrefi nyrsio ac unigolion preifat.
Mae Clintithink yn gwmni deallusrwydd artiffisial ym maes gofal iechyd, sydd wedi adeiladu’r deallusrwydd artiffisial CLiX i ddadansoddi nodiadau meddygol. Gellir defnyddio'r cymhwysiad hwn mewn sawl ffordd, gan gynnwys dadansoddi iechyd y boblogaeth, nodi clefydau prin, gwella cynhyrchiant clinigol a nodi cleifion ar gyfer treialon clinigol.
Mae Medi2data yn gwmni iechyd digidol o Gaerdydd. Mae’r cwmni wedi datblygu pecynnau meddalwedd sy’n integreiddio â chofnodion meddygol electronig a ddefnyddir mewn meddygfeydd meddygon teulu i gynhyrchu adroddiadau meddygol.
Mae Jiva wedi datblygu platfform deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol y gellir ei ddefnyddio i ddatblygu systemau deallusrwydd artiffisial ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau, gan gynnwys ym maes gofal iechyd. Gan ddefnyddio’r platfform, mae Jiva wedi creu meddalwedd diagnostig ar gyfer canser y prostad a chlefyd yr afu, ac ar hyn o bryd mae’n ymgysylltu â chwmnïau fferyllol a busnesau bach a chanolig ar gyfer awtomeiddio cyffredinol a chydnabod patrymau.