Ross Care
Mae Ross Care yn wneuthurwr cyfarpar symudedd, fel cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd. Mae pencadlys y cwmni yng Nglannau Mersi ac mae ganddo swyddfa yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint.
Mae Ross Care yn wneuthurwr cyfarpar symudedd, fel cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd. Mae pencadlys y cwmni yng Nglannau Mersi ac mae ganddo swyddfa yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint.
Mae Healthcare Matters yn cyflenwi cymhorthion ac offer gofal iechyd yn Wrecsam. Mae cynnyrch y cwmni yn cynnwys systemau trosglwyddo cleifion, cadeiriau ysbyty a chadeiriau llawfeddygol, gwelyau cadair a chymhorthion sefyll.
Menter gymdeithasol nid-er-elw sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol i arloesi.
Sefydlwyd Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru (WWIC) i fynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig â chlwyfau aciwt, trawmatig a chronig, nad ydynt yn gwella, a'u trin a'u hatal. Mae’r ganolfan yn darparu addysg a hyfforddiant, yn darparu ymchwil glinigol a gwasanaethau ymgynghori masnachol.
Mae Cymdeithas Gofal Dwys Cymru yn gymdeithas o weithwyr proffesiynol ym maes gofal dwys sy’n cynnal cynadleddau blynyddol ac yn cydlynu archwiliadau cenedlaethol a phrosiectau ymchwil.
WCISU yw'r Gofrestrfa Canser Genedlaethol ar gyfer Cymru, sy'n cofnodi, storio ac adrodd ar bob achos o ganser yng Nghymru. Mae'r uned hefyd yn cynnal ei hymchwil ei hun ac yn cydweithio â phrifysgolion Cymru, a gyda nifer o astudiaethau rhyngwladol mawr.
Mae Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru yn cael ei harwain gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru, a’i nod yw ymchwilio a gwerthuso rhaglenni rhagnodi cymdeithasol.
Mae’r WIDI yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS - Iechyd a Gofal Digidol Cymru bellach). Mae'r bartneriaeth hon wedi arwain at ddatblygu mentrau sy'n gysylltiedig â rheoli data iechyd, ar yr un pryd â chaniatáu i NWIS gyfrannu at ddylunio rhaglenni academaidd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gan roi cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gael mynediad at leoliadau gwaith ac interniaethau.
Ariennir Parc Geneteg Cymru gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac fe’i gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r Parc Geneteg yn cefnogi ac yn hyrwyddo ymchwil genetig a genomig ledled Cymru, gan helpu i weithredu Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, mae'r Parc yn darparu dadansoddiad dilyniannu a biowybodeg pwrpasol i wyddonwyr ymchwil biofeddygol. Mae’n cefnogi ac yn hyrwyddo ymchwil genomeg a geneteg ledled Cymru.
Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe'i hariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r ganolfan yn cefnogi ymchwil drwy ddatblygu’r strategaeth ymchwil canser ar gyfer Cymru.