Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent
Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi cael eu sefydlu fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Llywodraeth Cymru i wella llesiant y boblogaeth a gwella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu yn eu rhanbarth. Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent yn gwasanaethu’r un ardal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.