Thermetrix

Mae Thermetrix wedi datblygu’r Podium System, sganiwr thermograffeg ar gyfer troed y gwadn y gellir ei ddefnyddio i ragfynegi wlser troed sydd ar ddod neu i nodi diffyg fasgwlaidd neu niwropatheg. Mae’r cwmni hefyd wedi datblygu ap ategol i weld y canlyniadau a rheoli’r thermograff.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Tendertec

Mae Tendertec yn gwmni iechyd digidol o Gaerdydd. Mae Tendertec wedi datblygu technolegau wedi’u pweru gan ddeallusrwydd artiffisial sy’n defnyddio caledwedd a meddalwedd i fonitro iechyd beunyddiol pobl mewn lleoliadau gofal fel cartrefi gofal.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

OnICs

Mae OnICs yn gwmni iechyd digidol o Gaerdydd sy’n arbenigo ym maes oncoleg. Mae OnICs wedi datblygu'r gyfres o gynhyrchion iNOTZ, sef cymwysiadau sy'n cipio data ymgynghori meddygol yn y clinig ac sy'n cynhyrchu nodyn meddygol ar gyfer yr ymgynghorydd yn awtomatig.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Glucose Republic

Mae Glucose Republic yn gwmni meddalwedd sy’n adeiladu cymhwysiad symudol sy’n galluogi pobl i fesur a rhagweld eu hymatebion metabolaidd i fwydydd gwahanol. Bydd yr ap hefyd yn darparu argymhellion i ddefnyddwyr sy’n awyddus i reoli lefelau siwgr yn eu gwaed.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Forth

Mae Forth wedi datblygu profion gwaed yn y cartref (gan gynnwys profion hormonau, maeth, ffrwythlondeb, chwaraeon ac iechyd cyffredinol) sydd wedyn yn cael eu hanfon i labordy’r GIG lle mae profion yn cael eu cwblhau. Bydd meddygon teulu Forth hefyd yn rhoi sylwadau ar y canlyniadau hyn.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Denton Physio Technology

Mae Denton Physio Technology yn ddarparwr gwasanaeth ffisiotherapi sy’n defnyddio synwyryddion symud 3D i ddarparu adsefydlu o bell ar gyfer cleifion ataliol, cyn ac ar ôl llawdriniaeth.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Concentric Health

Mae Concentric Health yn gwmni meddalwedd iechyd o Gaerdydd sydd wedi datblygu datrysiad meddalwedd cydsynio digidol ar gyfer triniaethau meddygol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

SymlConnect

Mae SymlConnect yn gwmni iechyd digidol o Abertawe sy'n datblygu meddalwedd ar gyfer cyfathrebu rhwng cleifion a chlinigwyr. Mae SymlConnect yn cynnig datrysiadau meddalwedd effeithlon ar gyfer gofal sylfaenol, gan gynnwys ymgysylltu a chyfathrebu o bell â chleifion, ymgynghoriadau all-lein ar y pwynt gofal, ac arolygon digidol SMART.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

GPC Systems

Mae GPC Systems yn gwmni meddalwedd 3D o Abertawe a gafodd ei sefydlu yn 2010. Mae GPC yn datblygu meddalwedd sy’n canolbwyntio ar ofal iechyd, gan gynnwys rhaglen symudol i fesur maint clwyfau, ap i gynorthwyo ymarferwyr cyffredinol drwy ddarparu diagnosis posibl ac ap cyfathrebu cleifion-clinigwyr.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

eHealth Digital Media

Mae eHealth Digital Media yn gwmni iechyd digidol sydd wedi’i leoli yn Abertawe. Mae’r cwmni wedi datblygu PocketMedic, cymhwysiad symudol sy’n cynnwys llyfrgell o ffilmiau i helpu cleifion i reoli eu cyflyrau iechyd. Mae ffilmiau ar gael ar gyfer ystod o afiechydon, gan gynnwys diabetes, lymffoedema, methiant y galon, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, ymarfer corff gyda chlefyd yr ysgyfaint, poen cronig, gwella o ganser, lles, atal briwiau pwyso, a gofal diwedd oes.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: