CPR Global Tech
Mae CPR Global Tech yn gwmni digidol sydd wedi datblygu’r CPR Guardian, oriawr glyfar y gellir ei gwisgo sy’n gallu canfod a yw defnyddiwr wedi cwympo ac sy’n anfon SOS at ofalwyr neu aelodau o’r teulu.
Mae CPR Global Tech yn gwmni digidol sydd wedi datblygu’r CPR Guardian, oriawr glyfar y gellir ei gwisgo sy’n gallu canfod a yw defnyddiwr wedi cwympo ac sy’n anfon SOS at ofalwyr neu aelodau o’r teulu.
Mae Aparito yn gwmni treialon clinigol digidol yn Wrecsam sydd wedi datblygu Llwyfan Treial Clinigol Atom5, sy’n cefnogi Asesiadau Fideo, Asesiadau Canlyniadau Clinigol Electronig (eCOA), Telefeddygaeth, deunyddiau y gellir eu gwisgo ac eConsent, i gyd drwy un ap ffôn clyfar. Er ei fod wedi'i gynllunio'n wreiddiol ar gyfer treialon clefydau pediatrig a phrin, mae Atom5 bellach wedi'i ddefnyddio mewn ystod eang o astudiaethau mewn dros 20 o wledydd.
Mae’r WIDI yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS - Iechyd a Gofal Digidol Cymru bellach). Mae'r bartneriaeth hon wedi arwain at ddatblygu mentrau sy'n gysylltiedig â rheoli data iechyd, ar yr un pryd â chaniatáu i NWIS gyfrannu at ddylunio rhaglenni academaidd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gan roi cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gael mynediad at leoliadau gwaith ac interniaethau.
Mae Tritech yn gyfleuster arloesi ym maes technoleg feddygol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy’n cynnig gwasanaethau i gwmnïau gofal iechyd, gan gynnwys ymchwil, gwerthuso, cyngor a mynediad at bartneriaid prifysgol.
Mae GAD Cymru yn cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan er mwyn darparu goruchwyliaeth a chyfeiriad i ofal a alluogir gan dechnoleg yng Nghymru drwy weithio gyda sefydliadau i ddylunio a darparu gwasanaethau sy’n gallu diwallu anghenion defnyddwyr yn well drwy dechnoleg.
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n adeiladu ac yn dylunio’r systemau digidol a data cenedlaethol sy’n sail i’r gwasanaethau iechyd a gofal a ddarperir gan GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys cofnodion iechyd electronig, Ap GIG Cymru a llwyfannau rhagnodi electronig.