Y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd

Mae'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd (NNIISH), a arweinir gan Brifysgol Abertawe ac a ariennir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn fenter arloesol sy'n uno iechyd, chwaraeon a thechnoleg. Mae'n cysylltu busnesau newydd, cwmnïau rhyngwladol, y byd academaidd, a'r GIG, gan feithrin arloesedd trwy gydweithredu. Mae'r rhwydwaith yn rhoi mynediad i aelodau at gyfleusterau ymchwil a datblygu blaengar, cymorth busnes, digwyddiadau, a chyfleoedd ymchwil. Gan ganolbwyntio ar hyrwyddo gofal iechyd, meddygaeth a thechnoleg chwaraeon, mae NNIISH yn creu cyfleoedd newydd i gwmnïau ac yn ysgogi newid ystyrlon mewn arloesedd chwaraeon ac iechyd. Mae aelodau'n elwa o ecosystem gydweithredol sydd wedi'i dylunio i lunio dyfodol y meysydd hyn.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Wellcome Trust

Mae Wellcome yn bodoli i wella iechyd
drwy helpu syniadau gwych i ffynnu. Mae Wellcome yn ariannu ymchwilwyr iechyd, yn ymgyrchu dros wyddoniaeth well, ac yn helpu'r cyhoedd i gymryd rhan mewn ymchwil gwyddorau ac iechyd. Mae Wellcome yn sefydliad gwleidyddol ac ariannol annibynnol.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Asthma and Lung UK

Mae Asthma and Lung UK yn bodoli i helpu
pobl â chlefyd yr ysgyfaint. Mae’n cyflawni hyn drwy ariannu ymchwil hanfodol i ddeall, trin ac atal clefyd yr ysgyfaint, hyrwyddo gwell dealltwriaeth o glefyd yr ysgyfaint ac ymgyrchu dros newid positif yn iechyd ysgyfaint y genedl a chynnig gwasanaethau a chymorth fel nad oes rhaid i neb ei wynebu ar ei ben ei hun.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Cymdeithas MND

Cymdeithas MND yw’r unig elusen genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n ymroddedig i wella gofal a chymorth i bobl sy'n cael eu heffeithio gan MND, ariannu a gwella ymchwil, ac ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth fel bod cymdeithas yn mynd i’r afael ag anghenion pobl â MND.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Anthony Nolan

Mae Anthony Nolan yn achub bywydau
pobl sydd â chanser y gwaed drwy dyfu cofrestr o roddwyr bôn-gelloedd, cynnal ymchwil a darparu cymorth i gleifion.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Kidney Research UK

Mae Kidney Research UK yn ariannu a chyflwyno ymchwil, sy'n achub bywydau, i glefydau'r arennau, gyda'r nod o wella triniaethau i bobl â chlefydau'r arennau a gwella ansawdd eu bywyd a chynyddu ymwybyddiaeth o iechyd yr arennau.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Versus Arthritis

Mae Versus Arthritis yn cyllido ymchwil
wyddonol a meddygol i bob math o arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol. Mae'n gweithio i dynnu'r boen oddi wrth ddioddefwyr gyda phob math o arthritis a helpu pobl i aros yn egnïol. Cyflawnir hyn drwy ariannu ymchwil o ansawdd uchel, darparu gwasanaethau, gwybodaeth ac ymgyrchu. Gweledigaeth yr elusen yw dyfodol sy'n rhydd o arthritis.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Bowel Cancer UK

Mae Bowel Cancer UK yn anelu at achub bywydau a gwella ansawdd bywyd pawb sydd wedi'u heffeithio gan ganser y coluddyn.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Diabetes UK

Diabetes UK yw’r brif elusen ar gyfer pobl â
diabetes yn y DU, sy’n hyrwyddo hawliau unigolion â diabetes i sicrhau eu bod yn derbyn y safonau gofal iechyd y maen nhw'n eu haeddu. Mae'r sefydliad yn darparu gwybodaeth a chymorth i bobl â diabetes a'u gofalwyr, tra hefyd yn ariannu ymchwil feddygol hanfodol i'r cyflwr.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Parkinson’s UK

Mae Parkinson's UK yn ysgogi gwell gofal,
triniaethau ac ansawdd bywyd i bobl â Chlefyd Parkinson.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd: