Prifysgol Bangor
Mae tua 10,000 o fyfyrwyr yn mynychu Prifysgol Bangor, sydd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru. Mae gwaith ymchwil y brifysgol yn canolbwyntio ar dair thema allweddol, sef ynni a’r amgylchedd; iechyd, lles ac ymddygiad; ac iaith, diwylliant a chymdeithas. Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi’i lleoli yn y brifysgol, a disgwylir y garfan gyntaf o fyfyrwyr meddygaeth ym mis Medi 2024.