Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch

Mae’r Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch yn gyllidwr arloesedd gan lywodraeth y DU ar gyfer Amddiffyn a Diogelwch. Ein nod yw canfod ac ariannu arloesedd y gellir manteisio arno er mwyn sicrhau dyfodol mwy diogel. Mae gennym amrywiaeth o gyllid i gyflymu syniadau o unrhyw sector er budd Amddiffyn a Diogelwch. Rydyn ni eisiau syniadau gan amrywiaeth eang o arloeswyr ac mae gennym dîm o bartneriaid arloesi, o bob cwr o’r DU, sydd yma i helpu i arwain y rheini sydd â diddordeb yn y cyllid sydd ar gael.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

WP Thompson

Mae WP Thompson yn gwmni Cyfraith Eiddo Deallusol yng Nghaerdydd sy’n arbenigo mewn Patentau, Nodau Masnach, Dyluniadau a Hawlfraint ym mhob maes technegol. Rydym yn rhoi cyngor i unigolion, busnesau bach a chanolig, a sefydliadau mawr ar bob mater sy’n ymwneud ag eiddo deallusol.  Cynigir ymgynghoriad cychwynnol am ddim i’r holl bobl/cwmnïau sydd â diddordeb yn eu heiddo deallusol, p’un a oes ganddynt eiddo deallusol eisoes neu os ydynt yn dechrau arni a dim ond eisiau rhywfaint o wybodaeth sylfaenol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

SMART FIS

Mae SMART FIS yn rhaglen Busnes Cymru sy’n helpu sefydliadau (nid busnesau yn unig) sy’n ymwneud ag ymchwil, datblygu ac arloesi. Mae’r rhaglen yn rhoi mynediad i sefydliadau at rwydwaith o arbenigwyr, cyllid a chyngor. Nid yw SMART FIS wedi’i gyfyngu i sefydliadau yn y sector gwyddorau bywyd, ac mae wedi’i dargedu at helpu sefydliadau i greu cynnyrch a gwasanaethau newydd, cynyddu masnacheiddio, gwella sgiliau a sicrhau bod Cymru’n ymgyrraedd at fod yn ddi-garbon yn y dyfodol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Romilly Life Sciences

Mae Romilly Life Sciences yn ymgynghoriaeth masnacheiddio cynnyrch ym maes gofal iechyd, gwyddorau bywyd ac ymchwil glinigol. Mae’r gwasanaethau a gynigir gan Romilly yn cynnwys ymgynghori ar strategaethau busnes, hyfforddi amlddisgyblaethol ac adeiladu consortia.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

M&M Medical

Mae M&M Medical yn darparu gwasanaethau dylunio, gosod a chynnal a chadw nwy meddygol a labordy.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Reacta Healthcare

Mae Reacta Healthcare yn gweithgynhyrchu prydau bwyd i'w defnyddio mewn treialon clinigol (prydau a ddefnyddir i wneud diagnosis a monitro alergedd bwyd) drwy ddatblygu a chynhyrchu alergenau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Sofinn

Mae Sofinn yn darparu offer i’r diwydiannau fferyllol a biotechnoleg, gan gynnwys cyfarpar sterileiddio, offer biobrosesu a chyfleusterau ystafell lân. Mae swyddfa Sofinn yn y DU wedi’i lleoli yng Nghasnewydd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Markes

Mae Markes yn wneuthurwr offer sbectrometreg cromatograffaeth nwy y gellir eu defnyddio mewn labordai amgylcheddol, bwyd a chlinigol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Biofortuna

Mae Biofortuna yn ddarparwr gwasanaeth i ddatblygwyr diagnosteg moleciwlaidd a phrofion imiwnedd, gan gynnwys datblygu contractau a gwasanaethau gweithgynhyrchu. Mae'r cwmni hefyd yn cynnig gwasanaethau genomig fel echdynnu DNA ar gyfer sefydliadau ymchwil fferyllol a chlinigol, dilysu llinellau celloedd ar gyfer ymchwilwyr academaidd, a phrofi cysylltiadau DNA ar gyfer achosion cyfreithiol, mewnfudo a fforensig.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

UK Discovery Health Ltd

Mae UK Discovery Health yn gwmni ymgynghori sy’n darparu ymgynghoriaeth ar fynediad i’r farchnad, cynllunio strategol a masnacheiddio ar draws y sectorau gwyddorau bywyd ac iechyd digidol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: