Menai Organics

Mae Menai Organics yn darparu cemegau organig coeth fel rhyngolynnau ar gyfer synthesis cyfochrog a synthesis cyfnod solet ar gyfer ymchwil a datblygu yn y sectorau agrocemegol, darganfod cyffuriau a biotechnoleg.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Nu Instruments

Mae Nu Instruments o Wrecsam yn ddylunydd ac yn wneuthurwr sbectromedrau mas perfformiad uchel, i'w defnyddio ym maes gwyddorau ffisegol a bywyd, gan gynnwys delweddu biofeddygol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Neogen

Mae Neogen yn ddarparwr datrysiadau diogelwch bwyd. Yn 2022, unodd y cwmni â 3M Food Safety, a oedd yn berchen ar safle datblygu a gweithgynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r safle hon yn gweithgynhyrchu profion hylendid cyflym a chynnyrch sgrinio microbaidd i’w defnyddio gan gynhyrchwyr llaeth, bwyd a diod.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS)

Mae Sefydliad Gwyddorau Bywyd Prifysgol Abertawe yn gartref i labordai ymchwil a chyfleusterau deori busnes ar gyfer sefydliadau masnachol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Partneriaeth Genomeg Cymru

Mae Partneriaeth Genomeg Cymru yn cefnogi’r gwaith o ddarparu meddygaeth fanwl yn GIG Cymru drwy dechnolegau genetig a genomig.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Banc Datblygu Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn fanc sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru ac sy’n darparu cymorth ariannol i fusnesau Cymru, gan gynnwys benthyciadau busnes a buddsoddiad ecwiti. Rhoddwr benthyciadau unigryw yng Nghymru.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Medicentre Caerdydd

Mae Medicentre Caerdydd yn ddeorydd i egin fusnesau ym maes biotechnoleg a thechnoleg feddygol. Mae’n fenter ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)

Mae ATiC (sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) yn ganolfan cefnogi ymchwil a busnes sy’n canolbwyntio ar ddatblygu technolegau cynorthwyol. Mae'r ganolfan yn cynnig mynediad at arbenigedd academaidd a chyfleusterau arloesol, gan gynnwys labordai UX a chyfleusterau prototeipio.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH)

Mae Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) yn gydweithrediad unigryw rhwng tri phartner strategol; Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe. Nod ARCH yw gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau yn ei ardaloedd a goresgyn heriau o fewn gofal iechyd yng nghefn gwlad ac mewn ardaloedd trefol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru yn rhwydwaith a arweinir gan Brifysgol Caerdydd sy'n ceisio dwyn ynghyd arbenigedd ymchwil gan gwmnïau gwyddorau bywyd a sefydliadau ymchwil yng Nghymru drwy drefnu digwyddiadau a nodi galwadau am gyllid.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: