Pharma Footpath

Mae Pharma Footpath yn darparu data ar gyfer cyfanwerthwyr fferyllol ledled Gogledd America ac Ewrop, gan fynd i’r afael â phrinder yn y DU a marchnadoedd eraill, yn ogystal â masnach ryngwladol arall gan gynnwys Cyflenwi Treialon Clinigol, Mewnforio Paralel, Meddyginiaethau heb eu trwyddedu, ac eraill. Defnyddir data hefyd i gefnogi cynlluniau datblygu busnes ar gyfer cwmnïau fferyllol sydd â phortffolio caniatâd i farchnata.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

WP Thompson

Mae WP Thompson yn gwmni Cyfraith Eiddo Deallusol yng Nghaerdydd sy’n arbenigo mewn Patentau, Nodau Masnach, Dyluniadau a Hawlfraint ym mhob maes technegol. Rydym yn rhoi cyngor i unigolion, busnesau bach a chanolig, a sefydliadau mawr ar bob mater sy’n ymwneud ag eiddo deallusol.  Cynigir ymgynghoriad cychwynnol am ddim i’r holl bobl/cwmnïau sydd â diddordeb yn eu heiddo deallusol, p’un a oes ganddynt eiddo deallusol eisoes neu os ydynt yn dechrau arni a dim ond eisiau rhywfaint o wybodaeth sylfaenol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Algae Products International

Mae Algae Products International yn darparu cynnyrch a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â microalgae, gan gynnwys ar gyfer y sectorau cosmetig, bwyd, amaethyddiaeth a fferyllol. Mae’r cynhyrchion a gynigir yn cynnwys cyfansoddion sy’n deillio o ficroalgae, tra bod gwasanaethau’n cynnwys ymchwil bersonol i gymwysiadau microalgae.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Private Pharma

Mae Private Pharma yn cyflenwi llenwadau croenol a chynhyrchion esthetig eraill.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Evolve Resources

Mae Evolve Resources yn darparu gwasanaethau i’r sectorau fferyllol a gofal iechyd. Mae’r cwmni’n cynnig gwasanaethau sy’n ymwneud â rheoli’r gadwyn gyflenwi, gan gynnwys gweithgynhyrchu contractau, trwyddedu cynhyrchion gorffenedig a chyflenwi cynhyrchion i ysbytai.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

IO Biotech

Mae IO Biotech yn gwmni biofferyllol sy'n datblygu brechlyn canser sy'n addasu imiwnedd yn erbyn melanoma a thiwmorau solet. Mae pencadlys y cwmni yn Denmarc, er bod ganddo safle yn ne Cymru sy’n canolbwyntio ar sicrhau ansawdd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Biocatalysts

Mae Biocatalysts yn sefydliad datblygu a gweithgynhyrchu contractau sy’n arbenigo mewn darganfod, datblygu a chynhyrchu ensymau ar gyfer y diwydiannau bwyd, gwyddorau bywyd, fferyllol a biotechnoleg. Mae’r cwmni hefyd yn cyflenwi amrywiaeth o gynnyrch ensymau a ddatblygwyd yn flaenorol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Sofinn

Mae Sofinn yn darparu offer i’r diwydiannau fferyllol a biotechnoleg, gan gynnwys cyfarpar sterileiddio, offer biobrosesu a chyfleusterau ystafell lân. Mae swyddfa Sofinn yn y DU wedi’i lleoli yng Nghasnewydd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Excelcis

Mae Excelcis yn gwmni meddalwedd sy’n darparu gwasanaethau i gleientiaid mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys datblygu meddalwedd personol a gwasanaethau a reolir. Mae’r cwmni hefyd wedi datblygu cynnyrch meddalwedd, gan gynnwys iOPharma, pecyn meddalwedd sydd wedi’i ddylunio i symleiddio’r broses o brynu deunyddiau crai.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Clarity Compliance Solutions

Mae Clarity Compliance Solutions yn ymgynghoriaeth cydymffurfiaeth reoleiddiol sy’n cynnig ystod o wasanaethau, gan gynnwys archwiliadau, archwiliadau ffug, hyfforddiant a datblygu System Rheoli Ansawdd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: