Clarity Compliance Solutions
Mae Clarity Compliance Solutions yn ymgynghoriaeth cydymffurfiaeth reoleiddiol sy’n cynnig ystod o wasanaethau, gan gynnwys archwiliadau, archwiliadau ffug, hyfforddiant a datblygu System Rheoli Ansawdd.
Mae Clarity Compliance Solutions yn ymgynghoriaeth cydymffurfiaeth reoleiddiol sy’n cynnig ystod o wasanaethau, gan gynnwys archwiliadau, archwiliadau ffug, hyfforddiant a datblygu System Rheoli Ansawdd.
Mae Capital Law yn gwmni cyfraith fasnachol sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau cyfreithiol, gan gynnwys i’r diwydiant gofal iechyd a fferyllol.
Mae Ambrose Healthcare yn gwmni fferyllol o Wrecsam sy’n datblygu therapïau ar gyfer clefydau prin a gofal mewn ysbytai.
Mae SERB Pharmaceuticals (BTG gynt) yn gwmni fferyllol sy’n datblygu cyffuriau ar gyfer gofal brys a chlefydau prin. Prynodd SERB gwmni BTG Specialty Pharmaceuticals yn 2021, a oedd â phortffolio o feddyginiaethau gofal brys, gan gynnwys gwrthwenwynau a ddatblygwyd gan Protherics, cwmni a brynwyd gan BTG yn 2008. Mae gan Protherics gyfleuster gweithgynhyrchu yn Llandysul.
Mae Magpie Concept yn asiantaeth Cyfathrebu Meddygol sy’n arbenigo yn y diwydiant fferyllol. Mae’r cwmni hefyd wedi datblygu llwyfannau ar-lein y gellir eu cynnig i gwmnïau i rannu cynnwys meddygol a chasglu adborth.
Mae Wynne-Jones yn gwmni atwrnai patentau sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys Dyfeisiau Meddygol, Technoleg Feddygol, Gwyddorau Bywyd a Chynhyrchion Fferyllol.
Mae Symbiosis IP yn gwmni atwrnai patentau sy’n gwasanaethu’r diwydiant gwyddorau bywyd yn unig.
Mae Abel + Imray yn atwrneiod patentau sy’n gweithio mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys y sectorau gofal iechyd, gwyddorau bywyd a fferyllol. Mae gan y cwmni swyddfa yng Nghaerdydd.
Mae Gatehouse ICS yn ymgynghoriaeth ymchwil i’r farchnad a datblygu busnes yn y diwydiannau fferyllol, biotechnoleg, technoleg feddygol a diagnosteg.
Mae PB Leiner yn cyflenwi amrywiaeth o beptidau colagen a gelatin i'r diwydiannau fferyllol, bwyd a gwyddorau bywyd. Mae gan y cwmni uned gynhyrchu yn Nhrefforest.