Kairos Biotech

Mae Kairos Biotech yn gwmni cam cynnar sydd wedi’i leoli yn Llanelwy, Sir Ddinbych, sy’n canolbwyntio ar ddarganfod moleciwlau bach perchnogol sy’n berthnasol i ddiagnosteg ac imiwnotherapi. Mae Kairos Biotech yn datblygu llif o foleciwlau bach ar gyfer imiwnotherapi a diagnosteg y genhedlaeth nesaf, a'i nod yw gwella opsiynau trawsblannu trwy gael gwared ar rwystrau rhag trawsblannu.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

SGS Quay Pharma

Sefydliad Gweithgynhyrchu Datblygu Contractau yw SGS Quay Pharma sy’n darparu gwasanaethau i gwmnïau biotechnoleg a fferyllol, gan gynnwys datblygu fformiwleiddiad, gweithgynhyrchu clinigol a gwasanaethau dadansoddi. Mae gan y cwmni ddau safle yng Nglannau Dyfrdwy.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Phytovation

Mae Phytovation yn gyflenwr Cynhwysion Fferyllol Actif, sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon yng ngogledd-orllewin Cymru, ac mae’n arbenigo mewn cynhyrchu senna safonol i’w ddefnyddio fel carthydd.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Neuromind Biopharma

Mae Neuromind Biopharma yn gwmni fferyllol sy’n canolbwyntio ar ymchwil a datblygu triniaethau iechyd meddwl newydd ar gyfer iselder sy’n gwrthsefyll triniaeth.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Menai Organics

Mae Menai Organics yn darparu cemegau organig coeth fel rhyngolynnau ar gyfer synthesis cyfochrog a synthesis cyfnod solet ar gyfer ymchwil a datblygu yn y sectorau agrocemegol, darganfod cyffuriau a biotechnoleg.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Awen Oncology

Mae Awen Oncology yn gwmni darganfod cyffuriau oncoleg, sy’n targedu canserau prin nad oes opsiynau triniaeth effeithiol ar eu cyfer ar hyn o bryd, fel cordoma. Mae'r cwmni’n cyfuno bioleg strwythurol â chyfradd brosesu uchel mewn sgrinio ymgeiswyr ar gyfer cyffuriau silico er mwyn gallu darganfod llif newydd o gynnyrch fferyllol.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Wockhardt

Mae Wockhardt yn gwmni fferyllol mawr sydd â phortffolio o dros 200 o gynhyrchion, gan gynnwys cyffuriau generig a chyffuriau brand mewn meysydd therapi fel rheoli poen, gwrthgeulo a diabetes. Mae gan y cwmni gyfleuster gweithgynhyrchu di-haint yn Wrecsam sy’n cyflogi tua 500 o staff. Chwaraeodd safle Wrecsam ran fawr yn y gwaith o gynhyrchu brechlyn Astra Zeneca yn erbyn COVID-19.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Bowmed Ibisqus

Mae Bowmed Ibisqus yn gwmni yn Wrecsam sy’n datblygu fersiynau generig y gellir eu chwistrellu o gyffuriau gwrthfacterol ar gyfer y farchnad gofal eilaidd.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

An-ex Analytical Services

Mae An-ex yn sefydliad ymchwil a datblygu contractau annibynnol sy’n cynnig amrywiaeth o ddatrysiadau gwyddor y croen i’r sectorau fferyllol, cemegol a chosmetig. Mae gwasanaethau An-ex yn cynnwys rhagfynegiad o arsugno croenol, trwy'r croen ac ewinol, datblygu fformwleiddiadau i weithio ar y croen, trwy'r croen ac ar ewinedd, ffurfio a gwerthuso dyfeisiau, ac arbrofi a chynnig barn i gefnogi ymgyfreitha patentau.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd:

Aber Instruments

Mae Aber Instruments yn datblygu datrysiadau gweithgynhyrchu ar gyfer y diwydiannau bragu a biotechnoleg, gan gynnwys offer a synwyryddion mesur biomas. Mae’r cwmni’n cyflenwi rhai o gwmnïau fferyllol a bragu mwyaf y byd, gan gynnwys Glaxo Smithkline, Novartis, ABInBev, Heineken a SAB miller. Mae pencadlys y cwmni yn Aberystwyth.

Gwasanaethau:
Math:
Sector:
Arbenigedd: