SETsquared

Mae SETsquared yn bartneriaeth rhwng prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd, Caerwysg, Southampton a Surrey. Mae’r bartneriaeth yn cynnig amrywiaeth o raglenni cymorth busnes sydd wedi’u hanelu at fyfyrwyr, ymchwilwyr academaidd, sylfaenwyr cwmnïau technoleg a busnesau bach a chanolig.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Cardiff Edge (Pioneer Group)

Mae Cardiff Edge (a reolir gan Pioneer Group) yn safle ymchwil a datblygu gwyddorau bywyd yng ngogledd Caerdydd sy’n darparu gofod labordy a swyddfeydd i gwmnïau eu rhentu.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

sbarc|spark

Mae Sbarc yn barc ymchwil gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n cynnwys unedau masnachol, swyddfeydd a mannau cydweithio, labordai, mannau profi a mannau arddangos. Yn Sbarc, mae Arloesedd Caerdydd yn cynnig cymorth i gwmnïau deillio ac egin fusnesau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

M-Sparc

Gan agor yn 2018, M-Sparc yw parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru. Mae’r parc yn darparu lle i egin fusnesau a chorfforaethau mawr, ac mae hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth busnes fel Cymorth Arloesi a Masnacheiddio.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Canolfan Dechnoleg OpTic

Mae Canolfan Dechnoleg OpTic yn darparu cyfleusterau arloesol ym maes ymchwil a datblygu ar gyfer egin fusnesau a chwmnïau yn ystod y cyfnod cynnar. Yn benodol, mae’r ganolfan yn hyb ar gyfer technoleg optoelectroneg ac arloesi gwyddonol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: