Teamworks Design & Communications
Mae Teamworks yn darparu gwasanaethau dylunio, marchnata a chyfathrebu i gwmnïau gwyddoniaeth a thechnoleg, gan gynnwys cleientiaid biotechnoleg a thechnoleg feddygol.
Mae Teamworks yn darparu gwasanaethau dylunio, marchnata a chyfathrebu i gwmnïau gwyddoniaeth a thechnoleg, gan gynnwys cleientiaid biotechnoleg a thechnoleg feddygol.
Mae Sotas Group yn ymgynghoriaeth cydymffurfiaeth ansawdd a rheoleiddio diagnostig dyfeisiau meddygol o Abertawe. Mae’r cwmni’n darparu ystod o wasanaethau, gan gynnwys llunio dogfennau technegol, llywio strategaethau rheoleiddio, rhoi Systemau Rheoli Ansawdd ar waith a hyfforddi staff.
Mae Maruthi Quality Management Services yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i ddatblygwyr Dyfeisiau Meddygol, gan gynnwys cyngor rheoleiddio, Gweithredu System Rheoli Ansawdd a chyngor ar Eiddo Deallusol.
Mae ImmunoServ yn gwmni deillio o Brifysgol Caerdydd sy'n datblygu cynhyrchion a gwasanaethau ym maes imiwnoleg. Mae’r cwmni’n datblygu profion imiwnolegol, gan gynnwys profion celloedd T ar gyfer COVID-19. Mae’r gwasanaethau a gynigir gan y cwmni’n cynnwys gwasanaethau labordy i gefnogi datblygiad profion imiwnedd newydd.
Mae Bloom Standard wedi datblygu dull o gynnal sganiau uwchsain awtonomaidd, di-law sy'n galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i sgrinio babanod newydd-anedig a phlant am gyflyrau cardiaidd ac anadlol. Nid yw’r cynnyrch hwn wedi’i gymeradwyo at ddefnydd clinigol ar hyn o bryd.
Mae Blackwood Embedded Solutions yn ymgynghoriaeth dylunio ar gyfer dylunio meddalwedd ac electroneg. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn dylunio cynnyrch ar gyfer y sector meddygol.
Mae Sony UK Technology Centre ym Mhencoed yn gartref i Wasanaeth Gweithgynhyrchu Electroneg Contract sydd wedi cael ei ddefnyddio i gynhyrchu cynnyrch electronig mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys dyfeisiau meddygol.
Mae RED MedTech yn ymgynghoriaeth datblygu cynnyrch a chydymffurfio sy’n arbenigo mewn dyfeisiau meddygol. Mae’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys cyngor dylunio a rheoleiddio a chymorth gyda ffeilio technegol.
Mae Laennec AI wedi datblygu stethosgop digidol wedi'i bweru gan AI ac ap ategol y gellir ei ddefnyddio gan weithwyr proffesiynol neu gan gleifion yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r stethosgop yn gallu dadansoddi canlyniadau’r stethosgop, a allai arwain at ddiagnosis cynharach o gyflyrau’r galon.
Mae PDR yn gyfleuster ymgynghori dylunio ac ymchwil gymhwysol a sefydlwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Y tu allan i ymchwil academaidd PDR, mae'r cyfleuster hefyd yn cynnig gwasanaethau ymgynghori ar gyfer dylunio cynhyrchion newydd, gan gynnwys dyfeisiau meddygol