Kingston Medical Equipment and Garments

Mae Kingston Medical Equipment and Garments (KMEG) yn fusnes teuluol yn ne Cymru, ac mae’n arbenigo mewn cynhyrchu dillad meddygol, gan gynnwys sgrybs, gynau meddygol a chotiau labordy.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Jiva.ai

Mae Jiva wedi datblygu platfform deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol y gellir ei ddefnyddio i ddatblygu systemau deallusrwydd artiffisial ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau, gan gynnwys ym maes gofal iechyd. Gan ddefnyddio’r platfform, mae Jiva wedi creu meddalwedd diagnostig ar gyfer canser y prostad a chlefyd yr afu, ac ar hyn o bryd mae’n ymgysylltu â chwmnïau fferyllol a busnesau bach a chanolig ar gyfer awtomeiddio cyffredinol a chydnabod patrymau.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Jellagen

Mae Jellagen yn gwmni biotechnoleg sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn datblygu colagen gradd ymchwil sy’n deillio o sglefrod môr. Mae gan colagen sglefrod môr nifer o gymwysiadau posibl mewn gwyddoniaeth a meddygaeth, gan gynnwys cynhyrchu sgaffaldiau orthopedig, gorchuddion clwyfau a sgaffaldiau celloedd ar gyfer meithrin celloedd a therapi celloedd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Intelligent Ultrasound

Mae Intelligent Ultrasound yn datblygu offer meddalwedd dadansoddi delweddau clinigol sy'n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial i labelu'r anatomeg a welir mewn delweddau uwchsain yn awtomatig. Mae'r cwmni hefyd yn darparu efelychwyr dysgu dwfn a hyfforddiant uwchsain uwch ar gyfer obstetreg, cardiaidd, ysgyfaint, pwynt gofal, hyfforddiant uwchsain trawsweiniol a thrawsabdomenol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Huntleigh Healthcare

Mae Huntleigh Healthcare yn gwmni dyfeisiau meddygol sy'n datblygu, gweithgynhyrchu a chyflenwi dyfeisiau i asesu a thrin cyflyrau fasgwlaidd. Mae Huntleigh hefyd yn cynhyrchu systemau monitro cleifion wrth ochr y gwely.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Heor

Mae Heor yn gwmni ymgynghori annibynnol sy’n arbenigo mewn modelu economeg iechyd, ymchwil i ganlyniadau, dadansoddi ystadegol, mynediad i’r farchnad, a chyfleu gwerth.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Hardshell UK

Gwneuthurwr a chyflenwr offer amddiffyn a meddygol yw Hardshell. Mae’r cwmni’n darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) fel mygydau a menig, ac mae hefyd yn darparu gwasanaethau cynllunio mynediad i’r farchnad i gwmnïau fferyllol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Great Bear Healthcare

Mae Great Bear Healthcare yn cynhyrchu cynnyrch ymataliaeth. Mae cynnyrch Great Bear yn cynnwys bagiau coes, bagiau nos untro a bagiau nos y gellir eu hailddefnyddio, sylwedd tynnu glud, weips sy’n creu mur, gweiniau, cathetrau sy’n aros yn eu lle, a bagiau draenio.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

GoggleMinds

Mae GoggleMinds yn datblygu rhaglenni hyfforddi ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol y gellir eu darparu drwy VR neu liniaduron. Mae'r rhaglenni hyfforddi yn cwmpasu arbenigeddau clinigol, gan gynnwys meddygaeth, nyrsio, llawfeddygaeth a phroffesiynau perthynol i iechyd.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Glucose Republic

Mae Glucose Republic yn gwmni meddalwedd sy’n adeiladu cymhwysiad symudol sy’n galluogi pobl i fesur a rhagweld eu hymatebion metabolaidd i fwydydd gwahanol. Bydd yr ap hefyd yn darparu argymhellion i ddefnyddwyr sy’n awyddus i reoli lefelau siwgr yn eu gwaed.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: