SGS Quay Pharma

Sefydliad Gweithgynhyrchu Datblygu Contractau yw SGS Quay Pharma sy’n darparu gwasanaethau i gwmnïau biotechnoleg a fferyllol, gan gynnwys datblygu fformiwleiddiad, gweithgynhyrchu clinigol a gwasanaethau dadansoddi. Mae gan y cwmni ddau safle yng Nglannau Dyfrdwy.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Bee Robotics

Mae Bee Robotics yn dylunio ac yn cynhyrchu offerynnau robotig ar gyfer awtomeiddio trin hylifau mewn labordai biotechnoleg. Gellir defnyddio offer y cwmni i awtomeiddio technegau labordy cyffredin, fel profion Western Blot ac echdynnu DNA, ac fe’u cymeradwyir i’w defnyddio mewn profion diagnostig clinigol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Menai Organics

Mae Menai Organics yn darparu cemegau organig coeth fel rhyngolynnau ar gyfer synthesis cyfochrog a synthesis cyfnod solet ar gyfer ymchwil a datblygu yn y sectorau agrocemegol, darganfod cyffuriau a biotechnoleg.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Aber Instruments

Mae Aber Instruments yn datblygu datrysiadau gweithgynhyrchu ar gyfer y diwydiannau bragu a biotechnoleg, gan gynnwys offer a synwyryddion mesur biomas. Mae’r cwmni’n cyflenwi rhai o gwmnïau fferyllol a bragu mwyaf y byd, gan gynnwys Glaxo Smithkline, Novartis, ABInBev, Heineken a SAB miller. Mae pencadlys y cwmni yn Aberystwyth.

Services:
Math:
Sector:
Specialism:

Ig Innovations

Mae Ig Innovations yn is-gwmni i Abbott Toxicology, sydd ei hun yn is-gwmni i Abbott, cwmni dyfeisiau meddygol a gofal iechyd rhyngwladol. Mae Ig Innovation yn cynhyrchu gwrthgyrff polyclonal ar gyfer y sectorau ymchwil, diagnostig, biotechnoleg a fferyllol.

Services:
Math:
Sector:
Specialism: